Â鶹ԼÅÄ

'48,000 yn fwy i gael diabetes math dau o fewn degawd'

  • Cyhoeddwyd
Kevin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "rhaid" i Kevin Jones newid ei fywyd, meddai, ar ôl cael diagnosis diabetes

Fe allai 48,000 yn rhagor o bobl ddatblygu diabetes math dau dros y ddegawd nesaf, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Mae 200,000 o bobl Cymru'n byw gyda'r cyflwr yn barod, ond gallai hynny gynyddu 22% erbyn 2035 os yw'r duedd bresennol yn parhau.

Mae'n rhaid i raglenni atal a gwella diabetes math dau gael eu cyflwyno ym mhob rhan o Gymru, yn ôl elusen Diabetes UK Cymru.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn ystyried y camau nesaf ar ôl dechrau cynllun peilot i geisio atal y clefyd.

'Oedd rhaid newid'

Newidiodd bywyd Kevin Jones o Ruthun pan gafodd ddiagnosis diabetes math dau.

"Ges i symptoma' do'n i'm yn arfar cael; cynhesrwydd yn y traed, mi oedd llygada' fi yn dechra' mynd yn blurred - o'n i'm yn gweld y teledu'n iawn, llyfra'," meddai.

"Prawf, ac oedd fy oedran ffitrwydd i yn 79, 80. Ac oedd rhaid i Kevin Jones newid adeg hynny."

Disgrifiad o’r llun,

I Kevin Jones mae delio â'i gyflwr yn teimlo fel brwydr barhaus

Fe newidiodd ei arferion yn llwyr, gan gymryd rhan yn rhaglen colli pwysau S4C, Ffit Cymru er mwyn mynd i'r afael â'i gyflwr.

Mae bellach yn teimlo bod rheoli ei gyflwr yn frwydr barhaus.

"Oedd rhaid i fywyd newid, be o'n i'n fwyta, sut o'n i'n byw fy mywyd o ran cerdded mwy, peidio eistedd yn y sêt gymaint ag o'n i.

"Nes i newidiadau bychan i ddweud y gwir ac wedyn oedd newidiadau mawr wrth wneud y pethau bach: byta'n iachach, symud fwy."

Rhaid cael mwy o gymorth i bobl fel Kevin, ac i atal pobl rhag datblygu diabetes math dau yn y lle cyntaf, yn ôl Mathew Norman, dirprwy gyfarwyddwr elusen Diabetes UK Cymru.

"Mae 'na raglen diabetes yng Nghymru ond dydy hi ddim i Gymru gyfan. Mae o tua thri chwarter Cymru ar hyn o bryd. Bysa hynny'n gallu gwella.

"A dweud y gwir 'da ni angen lot mwy. Rhaid i ni edrych ar ddileu diabetes.

"Mae 'na raglenni wedi bod yn rhedeg yng Nghymru ond does 'na ddim rhaglen ar draws Cymru."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mathew Norman yw dirprwy gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru

Drwy wella'r gwasanaeth, byddai modd gwneud arbedion yn y gwasanaeth iechyd, meddai Mr Norman.

"Mae pwysau anferth ar y GIG oherwydd math dau diabetes," eglura.

"Ar hyn o bryd mae'n 10% o gyllideb y GIG ar gyfer [gofalu am] 200,000 [o bobl]. Da ni'n edrych ar gynnydd o 22% ar ben hynny.

"Da chi'n edrych ar 14-15% wedyn o gyllideb y GIG dim ond ar math dau diabetes.

"Mae atal diabetes yn jobyn pawb. Mae'n job hefyd i'r llywodraeth wneud yn siŵr bod y gwasanaethau yna i helpu pobl i wneud y dewisiadau iach."

£105m ar feddyginiaeth

Roedd cost meddyginiaeth i drin diabetes math dau y llynedd yn £105m yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag arhosiad ysbyty oherwydd diabetes yn costio £4,518 ar gyfartaledd.

Dyw hynny ddim yn cynnwys arhosiad ysbyty oherwydd torri coes i ffwrdd, sy'n gymhlethdod o'r cyflwr. Yn 2021-22 cafodd 560 o bobl y llawdriniaeth honno.

Mae'r mwyafrif llethol o achosion diabetes yng Nghymru yn fath dau. Yn ôl arbenigwyr, mae modd osgoi neu oedi datblygu'r cyflwr trwy newid arferion.

Mae rhaglen atal yn cael ei chyflwyno ar draws Cymru i ddod o hyd i'r bobl sydd fwyaf tebygol o ddatblygu diabetes, gan ddefnyddio prawf gwaed HbA1c.

Bydd y rhai mwyaf tebygol yn cael cymorth gweithiwr gofal iechyd i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw.

Ers ei lansio fis Mehefin 2022, mae wedi helpu dros 3,000 o bobl.

Cynllun peilot

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ariannu Peilot Cymru Gyfan i Atal Diabetes, sy'n cael ei weithredu mewn 32 o'r 60 clwstwr gofal sylfaenol.

"Rydyn ni'n ystyried y camau nesaf fel rhan o weithredu cynllun Pwysau Iach: Cymru Iach, ein strategaeth hirdymor i atal a gostwng gor-dewdra.

"Mae ein datganiad safon diabetes yn cynnwys disgwyliad y bydd gwasanaethau lleddfu ar gael i helpu gostwng nifer yr achosion o diabetes math dau a'r risg o ddatblygu cymhlethdodau difrifol. Mae rhaglen leddfu'n cael ei pheilota."

Pynciau cysylltiedig