Cyhuddo un o garfan y Barbariaid o ymosod yn rhywiol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Api Ratuniyarawa wedi'i enwi yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn

Mae un o chwaraewyr rygbi carfan y Barbariaid wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol.

Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn - roedd e'n wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Clywodd y llys ei fod yn gwadu ymosod yn rhywiol ar dair dynes ym mar y Revolution ar Stryd y Castell yn y brifddinas rhwng 31 Hydref a 1 Tachwedd.

Roedd Mr Ratuniyarawa wedi'i enwi yn rhan o garfan y Barbariaid i wynebu Cymru yn Stadiwm y Principality.

Yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc roedd e'n rhan o garfan Fiji.

Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Mr Ratuniyarawa o sir Gorllewin Northampton ond cadarnhau ei enw.

Ar ran yr erlyniad dywedodd Michael Evans wrth y llys: "Fe ddigwyddodd y tri digwyddiad yn annibynnol o'i gilydd. Doedd y tair dynes ddim yn adnabod ei gilydd a doedd y diffynnydd ddim yn eu hadnabod cyn y noson yna."

Disgrifiad o'r llun, Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn

Gorchmynnodd yr ynad Peter Hamley bod y chwaraewr rygbi yn ufuddhau i nifer o amodau mechnïaeth gan gynnwys cyrffyw electronig rhwng 19:00 a 07:00.

Does ganddo chwaith ddim hawl i ddod i Gymru oni bai am achosion llys. Mae e hefyd wedi cael gorchymyn i beidio cysylltu â thystion yn yr achos ac i beidio mynd i unrhyw fan trwyddedig.

Mae disgwyl i'r achos fynd ger bron Llys y Goron Caerdydd ar 4 Rhagfyr.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Barbariaid: "Wedi i Heddlu De Cymru gysylltu â ni fe wnaethon ni gydweithio'n llawn â nhw gan eu helpu gyda phob ymholiad.

"Yn sgil cyngor gan yr heddlu dyw hi ddim yn bosib i ni wneud unrhyw sylw pellach wrth i'r ymchwilad fynd yn ei flaen."