Duolingo yn hollti barn wrth beidio diweddaru'r Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe lansiodd Duolingo y cwrs Cymraeg cyntaf yn 2016

Mae penderfyniad Duolingo i beidio diweddaru'r cwrs dysgu Cymraeg ar yr ap wedi hollti barn dysgwyr yr iaith ledled y byd.

Ar hyn o bryd mae dos 658,000 o bobl yn dysgu Cymraeg ar yr ap dysgu ieithoedd, ac mae dros dwy filiwn o bobl wedi defnyddio'r cwrs Cymraeg ers ei lansio.

Dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg, Jeremy Miles bod yr adnodd am ddim yn allweddol i helpu dysgwyr ar eu taith i ddod yn siaradwyr Cymraeg.

Mae Duolingo yn dweud mai eu blaenoriaeth yw datblygu'r cyrsiau iaith sydd â mwy o alw gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

Ychwanegodd y cwmni: "Bydd y cwrs Cymraeg yn parhau i fod ar gael am ddim i ddysgwyr Cymraeg newydd ac i rai sydd am ddatblygu eu sgiliau."

Ond beth yw teimladau dysgwyr a siaradwyr newydd?

'Adnodd pwysig i allu dysgu Cymraeg dramor'

I ddysgwyr sy'n byw dramor, mae mynediad at wersi Cymraeg yn anodd ac felly mae Duolingo yn adnodd pwysig yn ôl Kim Falk o Ohio yn yr UDA.

"Rwy'n gandryll. Rwy'n defnyddio Duolingo i ddysgu Cymraeg yma gan fod adnoddau i ddysgu'r iaith yn brin.

"Dyw dysgu Cymraeg ddim ond yn bwysig yn y DU. Mae'n iaith prin ac yn bwysig i bobl sydd eisiau mabwysiadu diwylliant Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, Duolingo

Mae Rachel Whittaker McClary o'r Barri yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn nhalaith Washington yn yr UDA.

Meddai: "Dwi wedi bod yn defnyddio Duolingo bob dydd dros y bum mlynedd diwethaf a dwi wedi cyflwyno fy mhlant i'r iaith drwy aelodaeth i'r teulu.

"Fydda i ddim yn adnewyddu fy aelodaeth a dwi'n drist achos dydi platfformau i ddysgu'r iaith ddim yn hawdd i gael mynediad atynt i'r rhai ohonom sy'n byw dramor.

"Mae Duolingo yn rhan o fy routinedyddiol."

'Amhrisiadwy i bobl dyslecsic'

Sais yw Michaela Jane O'Connor ac fe symudodd i Gymru chwe blynedd yn ôl.

Mae Michaela yn gweld gwerth mewn defnyddio'r cwrs ar Duolingo ar ben mynychu gwersi Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Duolingo

"Dwi saith wythnos i mewn i gwrs bore Sadwrn. Fel person dyslecsic mae'n rhaid i fi ailadrodd pethau er mwyn dysgu.

"Mae defnyddio Duolingo ochr yn ochr â fy nghwrs wedi bod yn amhrisiadwy.

"Dwi'n ei ddefnyddio bob dydd yn ystod fy amser cinio ac ar ôl gwaith."

'Wyneb yn wyneb yn well'

Doedd dysgwyr Cymraeg yng Nghanolfan Celfyddydol Chapter yng Nghaerdydd ddim mor bryderus.

Dechreuodd Rory Duckhouse, o Gaerwrangon yn wreiddiol, ddysgu Cymraeg ar Duolingo yn ystod y cyfnodau clo.

Mae nawr wedi dechrau cwrs dysgu Cymraeg wyneb yn wyneb ac yn gweld gwahaniaeth.

"Dwi wedi dechrau cael gwersi Cymraeg trwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae hynny yn ddwy awr o wers bob dydd, sydd wedi gwella fy Nghymraeg.

"Gyda Duolingo dydych chi ddim wir yn siarad yr iaith dim ond ei ddeall.

"I fi, dydi o ddim yn broblem enfawr oherwydd bydd y cwrs Cymraeg dal arno."

Mae Lizzie Fitzpatrick o Gaerdydd yn cytuno:

"Mi fyddwn i'n dweud fy mod i wedi ei ddefnyddio i brofi fy ngeirfa ac i brofi os ydw i'n cofio geiriau newydd.

"Fe wnaeth fynd â fi 'nôl i ddysgu Eidaleg. Wnaeth hynny fy atgoffa o ba mor aml ro'n i'n dysgu i ailadrodd rhai ymadroddion fel "Mae'r llew yn bwyta'r gath," a phethau felly, pethau dwi ddim wir eu hangen.

"Os ydyn nhw yn adnewyddu'r cwrs Eidaleg, dylen nhw adnewyddu'r cwrs Cymraeg hefyd."

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dweud pe bai Duolingo yn ailystyried yna byddent yn hapus i gynorthwyo Duolingo i ddatblygu'r cwrs dysgu Cymraeg.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: "Mae Duolingo yn adnodd gwych ac mae'n siwtio rhai pobl.

"Mae gyda ni Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac mae yna ddarpariaeth dysgu Cymraeg gwych ac arloesol iawn ar gael drwy'r ganolfan.

"Fe allwch chi ddysgu ar lein, fe allwch chi ddysgu wyneb yn wyneb."