Â鶹ԼÅÄ

Ambiwlans Cymru: 'Peidiwch ffonio 999 os nad oes rhaid'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i beidio ffonio 999 oni bai bod "bywyd mewn perygl".

Nos Sul fe gyhoeddon nhw eu bod yn wynebu sefyllfa o "amgylchiadau eithriadol" gydag 16 ambiwlans yn aros y tu allan i uned achosion brys Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Yn ôl adroddiadau roedd un ambiwlans wedi gorfod aros 28 awr cyn trosglwyddo claf i'r un ysbyty.

Mae nifer o safleoedd ar draws Cymru wedi'u heffeithio yn sgil oedi wrth drosglwyddo cleifion y tu allan i adrannau brys ond nodir bod y sefyllfa ar ei gwaethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Nos Sul fe ddywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y gwasanaeth yn wynebu oedi difrifol wrth drosglwyddo cleifion y tu allan i adrannau achosion brys.

"Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i ymateb i alwadau yn y gymuned," meddai.

"Rydym wedi cyhoeddi sefyllfa o ddigwyddiad eithriadol wrth i nifer o safleoedd ar draws Cymru wynebu oedi wrth drosglwyddo cleifion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gwasanaeth bod y sefyllfa ar ei gwaethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Ychwanegodd bod y gwasanaeth wedi galw ar glinigwyr a rheolwyr ychwanegol i weithio yn Nhreforys.

"Yn anffodus, mae'r sefyllfa yn golygu bod yn rhaid i rai cleifion wneud trefnaidau eraill i gyrraedd yr ysbyty os nad oes ambiwlans ar gael," meddai.

"Ry'n ni'n ymddiheuro am ganlyniadau hyn ac yn gofyn i'r cyhoedd fod yn ddoeth wrth ddefnyddio gwasanaethau."

Angen bod yn 'onest a thryloyw'

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn yma anaf i'w ben, a bu'n aros oriau am gymorth ambiwlans yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog

Mae perchennog gwesty yn y gogledd a ofalodd am ddyn 80 oed yn dilyn anaf difrifol i'w ben yn dweud bod angen i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod yn "onest a thryloyw" gyda'r rhai sy'n galw 999 o ran pa mor hir y mae disgwyl iddynt aros.

Fe syrthiodd y dyn i lawr allt serth a glanio ar ei ben, yn agos i westy'r Hand yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Cafodd y perchennog Jonathan Greatorex ganllaw i beidio symud y gŵr wrth iddynt aros am ambiwlans.

Ond wrth iddyn nhw barhau i aros am gymorth, fe wnaeth cyflwr y gŵr ddirywio ac fe benderfynodd Mr Greatorex ei gludo i'w gartref i'w gadw'n gynnes.

Yn ddiweddarach fe gafodd y gŵr ei yrru i'r ysbyty gan ei wraig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Greatorex yn dweud bod angen i'r Gwasanaeth Ambiwlans fod yn fwy "gonest"

Dywedodd Mr Greatorex bod y criw ambiwlans yn "wych" ond bod angen bod yn "onest a thryloyw" wrth siarad â chleifion ar y ffôn am ba mor hir y gallai'r aros am ambiwlans fod.

"Os na all ambiwlans gyrraedd am bedair awr, byddwch yn onest am y peth.

"Os oes ffermwr yn cael anaf ar dractor yng nghanol unman byddai'n fwy diogel dweud 'Dydyn ni ddim am gyrraedd, da ni dan bwysau, ewch yn y car'.

"A dwi'n meddwl dyna'r cyfeiriad mae angen i ni fynd ati gyda'r gwasanaeth."

'Testun gofid'

Wrth siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast ddydd Llun, dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei fod yn "destun gofid mawr fod cleifion yn gorfod cael y profiad hwnnw".

Dywedodd bod gweld rhai o'r straeon yn cael eu hadrodd dros y penwythnos yn "dorcalonnus iawn" ac yn "rhwystredig".

Dywedodd mai'r rheswm dros y sefyllfa yw "cyfyngiadau llif cleifion ehangach" sydd i'w gweld ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan rybuddio mai gwaethygu wnaiff y sefyllfa gyda'r gaeaf ar ei ffordd.

Wrth ymateb i'r ffaith bod ambiwlans wedi treulio 28 awr y tu allan i ysbyty, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George, bod blaenoriaethau Llafur "yn anghywir".

Dywedodd: "Er gwaethaf cyhoeddiadau diweddar ynghylch ariannu, mae'r gyllideb i iechyd wedi ei chwtogi eleni ac o ganlyniad yn ein rhoi dan anfantais o'i gymharu â gwledydd eraill yn y DU."

Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor fod y Blaid Lafur wedi "colli rheolaeth ar y GIG yng Nghymru", gan ddweud bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru "mewn cylch dieflig".

Dywedodd nad oes "digon o welyau oherwydd methiant i ddarparu gofal cymunedol a chymdeithasol a addawyd ers tro".

'Wedi diogelu cyllid y GIG'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n wynebu'r sefyllfa ariannol anoddaf ers datganoli, ond ry'n ni wedi diogelu cyllid ein GIG.

"Ry'n ni'n buddsoddi mewn gofal brys undydd a mwy o welyau yn y gymuned, yn ogystal â datrysiadau integredig gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella llif cleifion trwy ysbytai, a thaclo oedi yn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.

"Mae lefel yr oedi yn trosglwyddo cleifion yn Ysbyty Treforys a ledled Cymru yn bryder i ni.

"Ry'n ni'n ceisio cael sicrwydd gan fyrddau iechyd am yr hyn sy'n cael ei wneud i leddfu'r pwysau presennol, sy'n cael ei achosi gan gynnydd mewn galw a phroblemau gyda llif cleifion."

Pynciau cysylltiedig