Â鶹ԼÅÄ

Hanner Marathon Caerdydd: Disgwyl 27,000 ar gyfer 20fed ras

  • Cyhoeddwyd
Hanner marathon

Fe fydd dros 27,000 o bobl yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Mae'r digwyddiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni.

Hon fydd y ras fwya' erioed yn ôl y trefnwyr, ac yn llawer mwy na'r 1,500 o redwyr oedd yn y ras gyntaf nôl yn 2003.

Mae'r ras yn dechrau yng Nghastell Caerdydd ac yn gorffen yn y Ganolfan Ddinesig.

Fe fydd nifer o ffyrdd ynghanol y ddinas .

Yn ogystal â'r rhedwyr elît, fe fydd miloedd o bobl gyffredin yn rhedeg gan godi arian at elusennau gwahanol.

Mae'r trefnwyr yn dweud bydd dros 600 o elusennau gwahanol yn elwa'n uniongyrchol o'r ras eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ras yn pasio rhai o olygfeydd eiconig Caerdydd

Yn eu plth mae Dan O'Keefe o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg. Mae wedi cyflawni cyfres o heriau dros y chwe mis diwethaf - gan gynnwys y ras Ironman yn Ninbych y Pysgod er mwyn codi arian at wasanaeth Childline NSPCC Cymru.

"Dwi'n wirfodolwr gyda Childline," meddai. "Dwi'n gwneud shifft pob wythnos yn siarad gyda phlant a phobl ifanc am eu problemau a'r hyn sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau nhw."

Mae'n dweud bod yr awyrgylch wrth redeg Hanner Marathon Caerdydd yn arbennig

"Jyst gweld pawb sy'n dod allan ac yn canu ac yn gweiddi a just yn cael hwyl wrth ochr y ffordd. Maen nhw'n creu'r egni i bawb sy'n mynd rownd y cwrs."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Roach wedi rhedeg ymhob ras ers y cyntaf yn 2003

Un sy'n gyfarwydd iawn ag ymateb y dorf yw Andrew Roach o Gaerdydd. Mae wedi rhedeg ym mhob ras ers 2003.

"Rydw i'n cofio rhedeg yn y ras gyntaf un, ac roedd hi'n eithaf hawdd gweld aelodau o'r teulu yn fy nghefnogi gan mai dim ond 1,500 o bobl oedd yn cymryd rhan.

"Mae'r ras wedi datblygu cymaint, ac mae pobl yn llenwi'r strydoedd. Mae'r holl gefnogaeth yn rhoi gymaint o hwb i chi, yn enwedig pan ry'ch chi'n cyrraedd Parc y Rhath ar gyfer y darn olaf."

'Rhedeg i gleifion Glangwili'

Tra bo Andrew yn hen gyfarwydd â'r profiad o redeg, mae criw o staff sy'n gweithio yn uned gofal dwys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn cymryd rhan am y tro cyntaf

Maen nhw'n codi arian i sefydlu gardd arbennig ar gyfer yr uned, ac hefyd er cof am un o'u cydweithwyr gafodd y weledigaeth ar gyfer y cynllun.

"Mae'n bwysig i ni fel tîm therapi yn gweithio'n agos gyda'n gilydd i godi arian am achlysur bwysig," meddai Catrin Ladbrook sy'n therapydd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Catrin Ladbrook yw y bydd gardd newydd yn yr ysbyty yn gymorth mawr i gleifion yna

Mae'r criw, sydd wedi bod yn hyfforddi gyda'i gilydd dros y misoedd diwethaf yn gobeithio y bydd yr ardd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion yn yr uned gofal dwys.

"Bydd yn meddwl bydden nhw'n gallu mynd mas i ymlacio gyda'u teulu, neu hyd yn oed mynd mas i weld y ci dydyn nhw ddim wedi gweld ers misoedd, achos mae rhai cleifion yn gallu bod yn yr uned am fisoedd.

"Mae'n rhywle i gael awyr iach a rhywle iddyn nhw gael ymlacio.

"Gobeithio bydden ni wedi casglu digon o arian i greu y prosiect yma."

Pynciau cysylltiedig