Dim cyllid i National Theatre Wales wedi adolygiad

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan

Disgrifiad o'r llun, Aelodau cast The Cost of Living - cynhyrchiad National Theatre Wales yn gynharach eleni oedd yn gadael i'r gynulleidfa dalu'r hyn roedden nhw'n gallu fforddio i'w weld

Mae sawl enw amlwg yn absennol o'r rhestr o sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) eleni.

Mae'r corff sy'n dosbarthu arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i gefnogi'r sector yng Nghymru wedi cynnig grantiau amodol gwerth bron i £30m i 81 o sefydliadau.

Ond mae National Theatre Wales, Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ac Opera Canolbarth Cymru ymhlith naw na fydd yn cael cynnig arian aml-flwyddyn mwyach, o 2024/25 ymlaen.

Dywed CCC eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd wedi "proses eithriadol o gystadleuol", a bod modd i sefydliadau aflwyddiannus geisio am gymorth cronfeydd eraill.

Fe wnaeth CCC dderbyn "y nifer uchaf erioed o geisiadau" eleni, ac roedd cyfanswm y gofyn ariannol gan 139 o sefydliadau'n werth bron £54m.

Mae nifer y sefydliadau sy'n derbyn arian aml-flwyddyn yn sgil Adolygiad Buddsoddi 2023 yn codi eleni o 67 i 81, a'r cyfanswm ar gynnig yn cynyddu o £28.7m i £29.6m "er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol".

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus sy'n derbyn cyllid aml-flwyddyn am y tro cyntaf mae Neuadd Ogwen ym Methesda, gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam, Galeri Elysium yn Abertawe, Urban Circle yng Nghasnewydd a Theatr Byd Bychan yn Aberteifi.

Dywed CCC mai'r gobaith yw cael mwy o bobl i ymwneud â'r celfyddydau yng Nghymru ac i sicrhau mwy o amrywiaeth.

Er cynnydd yn y cyllid i'r rhan fwyaf o feysydd creadigol, fe fydd yna dros £600,000 yn llai ar gyfer opera a £500,000 yn llai ar gyfer theatr, er mae yna ymrwymiad i adolygu maes theatr Saesneg Cymru.

'Mewn sioc'

Mewn datganiad, dywed National Theatre Wales bod y penderfyniad yn "sioc ddofn", gan effeithio ar staff, cynhyrchwyr theatr a chymunedau.

Fe fydd "yn lleihau cyfleoedd i ymwneud â theatr, cael cyflogaeth creadigol ac i adrodd straeon Cymru ar draws y wlad ac i'r byd".

Ychwanegodd: "Byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid a chyllidwyr i greu darlun o'r hyn sy'n bosib i'n helusen wrth symud ymlaen."

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mae'r penderfyniad yn "ergyd", medd Opera Canolbarth Cymru mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd: "Rydym yn hynod siomedig ac yn wir mewn sioc yn sgil y newyddion bod Cyngor y Celfyddydau - wedi 35 o flynyddoedd o lwyfannu opera rhyfeddol ar hyd a lled Cymru - wedi penderfynu peidio cynnig cyllid aml-flwyddyn i ni."

Lleisiau newydd

Fe gafodd y penderfyniadau eu gwneud ar sail "Chwe Egwyddor Cyngor Celfyddydau Cymru", meddai'r corff - Creadigrwydd, Ehangu Ymgysylltiad, Y Gymraeg, Cyfiawnder Hinsawdd, Meithrin Talent a Thrawsnewid.

Roedd CCC hefyd yn ystyried ffactorau fel gwasanaethu cymunedau ar draws Cymru, lleisiau nad sy'n cael eu clywed fel arfer, ystod eang o gelfyddydau a chyfleoedd creadigol, gwerth cyhoeddus, a maint a ffurf sefydliadau oedd yn ymgeisio.

Dywed CCC bod mwy o sefydliadau Cymraeg yn cael cefnogaeth, gan gynnwys Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog.

Mae Cwmni'r Frân Wen, Dawns i Bawb, Celfyddydau Anabledd Cymru a Theatr Bara Caws ymhlith y sefydliadau sy'n derbyn cynnydd yn eu lefelau ariannu presennol.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Dafydd Rhys yn falch o allu cefnogi 81 o sefydliadau ond yn derbyn y bydd yna drafodaeth ynghylch penderfyniadau CCC

Yn ôl Prif Weithredwr CCC, Dafydd Rhys, mae'r adolygiad "yn cynrychioli newid cadarnhaol iawn i'r celfyddydau yng Nghymru".

Fe fydd, meddai, "yn arwain at gyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir allu cymryd rhan yn y celfyddydau a mwynhau creadigrwydd o'r safon uchaf".

"Rydym yn hynod falch o allu cynnig arian i 81 sefydliad ledled Cymru, er ein bod yn cydnabod nad oes modd i ni ariannu pawb, na chyllido pob sefydliad i'r lefel y bydden nhw'n ddymuno.

"Bydd y penderfyniad i beidio parhau ag ariannu rhai sefydliadau'n siŵr o arwain at drafodaeth eang, un y byddwn yn ei chroesawu - er y bydd ein Ymyriadau Strategol yn ymateb i unrhyw fylchau fydd yn cael eu creu mewn ambell faes o ganlyniad i'n penderfyniadau."