20mya: Pleidlais o ddiffyg hyder yn methu â phasio yn y Senedd

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Lee Waters yn gwrando ar araith emosiynol gan gyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ystod y ddadl.

Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog a arweiniodd y broses o gyflwyno terfyn cyflymder 20mya newydd Cymru wedi methu â phasio.

Cafodd cynnig y Ceidwadwyr, yn erbyn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters, ei drechu gan 42 pleidleisiau i 16, gyda neb yn ymatal.

Yn ystod y ddadl, dywedodd yr Aelod o'r Senedd Llafur, Hefin David, bod Mr Waters wedi "cadw ei addewid" i bleidleiswyr.

Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth, Natasha Asghar wrth Mr Waters y dylai fynd "cyn i chi achosi mwy o ddifrod".

'Heb unrhyw ofal'

Mewn dadl danbaid yn y Senedd ddydd Mercher, cyhuddodd Ms Asghar y gweinidog o "wthio ymlaen â'r polisi diffygiol hwn heb unrhyw ofal i fusnesau, y gwasanaethau brys, nyrsys, gofalwyr a modurwyr".

"Mewn amser byr mae gwrthwynebiad i'r newid wedi ffrwydro, gyda deiseb yn galw am ddileu'r prosiect £33m wedi tyfu ar gyflymder enfawr."

Galwodd Delyth Jewell o Blaid Cymru gynnig y Ceidwadwyr yn "sinigaidd".

"Fe allwn ni gael anghytundebau ar bolisi ond mae personoli gwleidyddiaeth fel hyn yn beryglus," meddai.

'Malcolm bach'

Mewn araith emosiynol, fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price, resynu at naws y ddadl gyhoeddus ynghylch y mater a hynny tra'n cofio am farwolaeth ei gefnder Malcolm yn Sir Gaerfyrddin 51 mlynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Adam Price yn cofio am farwolaeth ei gefnder pum mlwydd oed, a gafodd ei tharo gan gar 51 mlynedd yn ôl

Dywedodd Mr Price fod ei gefnder pump oed wedi ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar wrth groesi'r ffordd:

"Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, es i ar bererindod bersonol ddoe i'r fan lle bu farw Malcolm.

"Gwelais yr arwydd 20mya newydd rhyw ganllath i ffwrdd. Roedd eisoes wedi'i difrodi â phaent.

"A meddyliais i fy hun beth sydd wedi digwydd pan fo'r ymgais ddidwyll, weddus, egwyddorol hon i achub bywydau plant ac eraill yn gatalydd i gymaint o ddicter a chasineb".

'Hyblyg'

Dywedodd Mr Waters yn y ddadl fod nifer y bobl oedd wedi arwyddo'r ddeiseb "yn siarad drosto'i hun ac rydym yn sicr yn ei chymryd o ddifrif".

"Rwy'n deall bod llawer o bobl yn grac ac yn rhwystredig," meddai.

"Mae fy neges i'r mwy na 400,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yn syml - rydyn ni'n gwrando ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

"Rydym yn deall nad yw pawb yn hoffi hyn ac rydym yn fodlon bod yn hyblyg a sut mae hyn yn cael ei weithredu yn eich cymuned leol."

Cyn y ddadl, cyhuddodd ef y Ceidwadwyr o "bersonoli" y mater, a alwodd yn "anffodus ac annymunol".

Dywedodd ef bod y Ceidwadwyr wedi lledaenu gwybodaeth anghywir drwy gyfeirio at y gyfraith newydd fel terfyn cyflymder 'cyffredinol'.

Daeth y ddadl ar ôl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgelu ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w ddiogelwch dros y gyfraith newydd.

Mae Heddlu De Cymru bellach yn ymchwilio i hynny.

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies ei fod hefyd wedi cael ei gam-drin ar-lein dros ei safiad ar y gyfraith newydd.

Ffynhonnell y llun, Ceri Breeze/Getty

Disgrifiad o'r llun, Roedd y gostyngiad o 30 i 20mya yn ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru

Mae'r Ceidwadwyr o blaid 20mya o amgylch lleoedd fel ysgolion ac ysbytai, ond nid mewn mannau eraill.

Cyn y bleidlais dywedodd Mr Waters fod Llywodraeth Cymru yn barod i edrych "ar unwaith" lle nad yw'r ddeddf newydd yn gweithio.

Ond dywedodd y byddai'r newid yn y terfyn cyflymder yn cymryd peth amser i wreiddio.

Ailadroddodd ei gred y byddai pobl yn dod i arfer â'r newid ymhen ychydig fisoedd.

"Rydym yn barod i fod yn hyblyg ynglŷn â sut mae hyn yn cael ei weithredu, a dyna sydd angen i ni ganolbwyntio arno nawr," meddai.

"Ar ba ffyrdd rydyn ni wedi gwneud pethau'n anghywir a sut ydyn ni'n gweithredu hynny?"

Mae gan 22 awdurdod lleol Cymru y grym i wneud eithriadau i'r terfyn rhagosodedig o 20mya, ond dywedodd Mr Waters fod rhai yn "gyndyn" i wneud hynny.

Pe bai cynghorau am newid ffordd yn ôl i gyfyngiad o 30mya, gallai'r broses gymryd 10-12 wythnos ar ôl pasio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwadu mai stỳnt oedd y bleidlais o ddiffyg hyder ddydd Mercher.

Fe wnaethon nhw alw pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ym mis Mawrth dros y modd yr ymdriniodd â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond methu wnaeth y cynnig yn y Senedd.

Disgrifiad o'r llun, Nid stỳnt wleidyddol oedd y cynnig o ddiffyg hyder, meddai Natasha Asghar

Ychwanegodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Natasha Asghar ei bod yn deall pam y gallai dwy bleidlais yn olynol gael eu gweld fel stỳnt, ond ychwanegodd: "Nid jôc i wleidyddion yw dim hyder.

"Ni ddylid ei hystyried yn jôc a dim ond mewn amgylchiadau difrifol iawn y dylai ddigwydd."

Dywedodd fod y gyfraith newydd wedi ysgogi ymateb "dwys" gan y cyhoedd.

Roedd cynlluniau ar gyfer deddf 20mya ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd, ond dywedodd Ms Asghar nad oedd wedi bod yn "ganolbwynt".

Cafodd ASau Llafur eu chwipio - neu eu cyfarwyddo - i bleidleisio yn erbyn y cynnig o ddiffyg hyder.

'Dim chwarae gemau'

Fe wnaeth Plaid Cymru hefyd ei wrthwynebu, gan gyhuddo'r Ceidwadwyr o chwarae gemau.

Mae eu harweinydd Rhun ap Iorwerth wedi ennill consesiynau ar gyfer adolygiadau rheolaidd o'r gyfraith newydd.

"Nid dyna sut rydyn ni'n gwneud gwleidyddiaeth," meddai. "Nid yw pobl yn pleidleisio i ni ddod yma i chwarae gemau."

O dan reolau'r Senedd ni fyddai'n rhaid i Mr Waters ymddiswyddo pe byddai'r bleidlais wedi pasio, ond byddai disgwyl iddo fod wedi gwneud hynny.

Mae deiseb yn galw am ddileu'r gyfraith bellach wedi cyrraedd dros 440,000 o lofnodion, ymhell y tu hwnt i'r trothwy o 10,000 er mwyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.