Cyhuddo prifathro o gam-drin plentyn yn rhywiol

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil Foden, 66, wedi ei gadw yn y ddalfa

Mae prifathro ysgol uwchradd wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol.

Cafodd Neil Foden, 66, o Gwynant, Hen Golwyn, ei gadw yn y ddalfa gan ynadon yn Llandudno.

Ni wnaeth cyfreithiwr Mr Foden, Dafydd Roberts, gais am fechnïaeth.

Fe ddywedodd yr erlyniad ei fod yn brifathro.

Mae Mr Foden wedi'i gyhuddo o dair trosedd, gan gynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn rhwng 13 a 15 oed a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fis nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod "unigolyn wedi ei wahardd o'i swydd nes bod ymchwiliad wedi ei gwblhau".

Ychwanegodd y datganiad: "Gallwn gadarnhau bod yr holl gamau diogelu plant yn cael eu dilyn."