Cwpan Rygbi'r Byd: Oes unrhyw obaith gan Gymru?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, A fydd y tîm rygbi cenedlaethol yn gallu efelychu camp y pêl-droedwyr yn Bordeaux?
  • Awdur, Cennydd Davies
  • Swydd, Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

"Bale, Bordeaux, Bendigedig!"

Na, nid fi hawliodd y geiriau anfarwol yna, ond yn hytrach fy nghyfaill a chydweithiwr Dylan Griffiths wrth ddisgrifio Gareth Bale yn crymanu'r bêl i'r rhwyd yn erbyn Slofacia ar gychwyn yr Euros yn 2016.

Mae'r hyn ddigwyddodd wedi hynny yn rhan o chwedloniaeth tîm pêl-droed Cymru.

Saith mlynedd yn ddiweddarach mae'r tîm rygbi yn dechrau'u hymgyrch yng Nghwpan y Byd ar yr union faes, gan obeithio ysgrifennu stori debyg.

Mae'r diffyg ffydd yn ddealladwy

Does fawr neb o'r gwybodusion yn rhoi llawer o obaith i Gymru ar drothwy'r gystadleuaeth, ac mi fydd hynny wrth gwrs yn siwtio Warren Gatland a'r garfan i'r dim.

Mae'r diffyg ffydd yn ddigon dealladwy, wedi blwyddyn gythryblus ar ac oddi ar y cae.

Roedd hi'n ymgyrch i'w hanghofio ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a llu o absenoldebau yn cynnwys Ken Owens, Justin Tipuric a'r ysbrydoledig Alun Wyn Jones.

Mae'r paratoadau wedi bod yn ddigon anesmwyth, a sawl ergyd ar hyd y daith.

Bu'n rhaid newid trywydd yn gyflym a dechrau ailadeiladu wrth fuddsoddi yn y to iau, gyda'r cyd-gapteniaid newydd Jac Morgan a Dewi Lake yn esiampl glir o hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Jac Morgan a Dewi Lake fydd yn arwain Cymru yng Nghwpan y Byd fel cyd-gapteiniaid

Ond y cwestiwn mawr yw, a fydd y gystadleuaeth yn dod yn rhy gynnar i'r genhedlaeth yma?

Ydy, ma' afiaith egnïol yn hanfodol, ond mae angen plethu hynny â phrofiad a meddwl craff fel gafodd ei amlygu'n glir yn y golled drom yn ddiweddar yn erbyn y Springboks.

Yr ynyswyr unwaith eto!

Mae'n ofynnol bron i Gymru gwrdd â Fiji yng Nghwpan y Byd.

Dyma'r pumed tro o'r bron i'r ddwy wlad gyfarfod yn y gystadleuaeth, ac mae digwyddiadau Nantes 16 o flynyddoedd yn ôl yn dal i godi arswyd ar bob un o gefnogwyr Cymru.

Roedd yna gryndod ar y cyfandir ar ôl i Fiji lorio tîm Gareth Jenkins yn ddiseremoni wrth gamu ymlaen i'r wyth olaf.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Fiji dipyn cryfach nawr nag oedden nhw pan drechon nhw Gymru yng Nghwpan y Byd 2007

Yr unig gysur, os rhywbeth, y tro hwn yw mai nid Nantes yw lleoliad y gêm!

Er hynny, y gofid i Gymru yw bod Fiji yn well o lawer na'r tîm hwnnw yn 2007. Nid tîm saith bob ochr rygbi 'ffwrdd â hi' mohono.

Mae'n dîm cadarn, corfforol, yn frith o sêr rhyngwladol sy'n dod benben yn flynyddol â'r goreuon yng nghystadleuaeth Super Rugby hemisffer y de, ac yn glanio yn ne Ffrainc wedi syfrdanu'r Saeson yn Twickenham.

Effaith Gatland yn y gemau pwysig

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn feistr ar baratoi ei dimau ar gyfer yr achlysuron mawr.

Dyw'r record ddiweddar ddim yn adlewyrchu hynny, o bosib, ond mewn gemau allweddol - boed yn arwain Cymru neu'r Llewod - roedd y tactegau a'r dewisiadau naw gwaith allan o 10 yn gywir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Warren Gatland yn feistr ar baratoi ei dimau ar gyfer yr achlysuron mawr

Bydd y tactegau hynny yr un mor bwysig yn y gêm agoriadol.

Peidiwch â disgwyl rygbi disglair o gwbl. Bydd Cymru'n ceisio glynu at batrwm tynn, disgybledig, gan gicio'n dactegol er mwyn gwahodd camgymeriadau.

Mae yna gymaint yn y fantol yn y gêm gyntaf ac fe fydd hi'n mynd yn bell i ddiffinio'r gystadleuaeth i Gymru.

Hen ystrydeb efallai, ond yn ddigon addas i ddisgrifio'r sefyllfa.

Ennill a bydd y tensiwn yn ysgafnhau, colli ac fe allai pethau fynd o chwith yn gyflym iawn.

Gobeithio'n wir y daw 'na eiriau eiconig newydd o'r pwynt sylwebu, ond y tro hwn beth am 'Biggar, Bordeaux, Bendigedig!'