Â鶹ԼÅÄ

Yr her o recriwtio a dal gafael ar ofalwyr maeth

  • Cyhoeddwyd
TeuluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau diweddar mae angen gofal maeth ar bum plentyn newydd bob diwrnod yng Nghymru

Mae angen "chwalu'r mythau a chodi ymwybyddiaeth" am waith gofalwyr maeth, medd gwirfoddolwyr ac unigolion sy'n gweithio yn y maes.

Yn ôl ffigyrau diweddar gan rwydwaith Maeth Cymru mae angen gofal maeth ar bum plentyn newydd bob dydd yng Nghymru, ac maen nhw'n amcangyfrif bod angen 600 o ofalwyr maeth ychwanegol.

Mae 'na bwysau hefyd i sicrhau fod pobl sy'n maethu eisoes yn parhau i wneud hynny.

Dywedodd un wrth Newyddion S4C ei bod wedi rhoi'r gorau iddi yn rhannol am resymau ariannol.

Mae Karen a Stephen Phillips o Gaernarfon wedi maethu hyd at 80 o blant.

"'Dan ni 'di joio pob munud ohono fo," meddai Stephen.

"Naethon ni ddechrau maethu yn 2001, a'r rheswm naethon ni 'neud hynna oedd dwi o deulu mawr, a 'dan ni bob tro 'di cael rhywun o gwmpas drwy'r adeg.

"Felly pan 'naeth plant ni dyfu, 'naethon ni benderfynu 'sa ni'n sbïo mewn i faethu."

Disgrifiad o’r llun,

"Ma' bob achos yn wahanol, so fedrith neb prepario chi am bob dim," meddai Karen Phillips

I Karen, mae'r profiad o faethu wedi bod yn "learning curve".

"Ma' bob plentyn yn wahanol," meddai. "Ma' bob achos yn wahanol, so fedrith neb prepario chi am bob dim... 'dan ni'n dysgu fel 'dan ni'n mynd yn ein blaen."

Er yn brofiad heriol ar adegau, mae'r ddau yn annog unrhyw un sy'n ystyried dod yn rhieni maeth i fynd amdani.

"'Swn i'n deud go for it," meddai Karen. "Mae o'n challenge, hefyd un o'r pethau gorau 'dan ni 'di neud."

Ac yn ôl Stephen, does dim rhaid bod yn "neb sbesial i fod yn rhiant maeth".

"Cariad ac amser, dyna 'di'r peth pwysicaf," meddai.

'Does dim un teulu maeth nodweddiadol'

Mae Meinir Llwyd yn gweithio fel swyddog marchnata i Maethu Cymru. Iddi hi, mae "chwalu'r mythau" a chodi ymwybyddiaeth am bwy all faethu yn hanfodol.

Dywedodd: "Mae pobl yn aml yn dod atom pan 'dan ni allan yn y gymuned a dweud: 'Na, dwi ddim mewn sefyllfa i faethu, dwi'n gweithio neu dwi ddim yn briod neu dwi'n sengl'.

"Ond wrth gwrs, does 'na ddim un teulu maethu nodweddiadol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meinir Llwyd fod yn gefnogaeth ar gael i unigolion sy'n ystyried dod yn ofalwyr maeth

Wrth geisio cael mwy o bobl i faethu, mae Meinir eisiau pobl i wybod "bod maethu yn hyblyg" a bod yna "lot fawr o gefnogaeth hefyd".

'Baich ariannol enfawr'

Ond i gynghorau ac asiantaethau maethu preifat, nid dim ond recriwtio pobl newydd i faethu yw'r nod. Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn dangos pwysigrwydd cadw rhieni maeth presennol hefyd.

Roedd Ruth Mason o Gaerdydd eisiau bod yn ofalwr maeth ers iddi fod yn ferch fach, a dechreuodd faethu ar ôl y pandemig.

Ond er ei angerdd am y plant yn ei gofal, trodd y profiad yn "faich ariannol enfawr", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth Mason ei bod wedi gorfod rhoi'r gorau i faethu oherwydd ei sefyllfa ariannol

"Fe wnaeth fy iechyd meddwl ddioddef yn fawr pan oeddwn i'n maethu, ac nid am y rhesymau byddai rhywun yn ei feddwl.

"Nid oherwydd bod y bobl ifanc yn anodd neu'n heriol. Na, roedd y plant yn fy ngwneud yn hapus iawn.

"Y tristwch roeddwn i'n ei deimlo oedd bod fi methu gwneud job digon da, roeddwn i methu fforddio i'w cadw nhw."

Penderfynodd Ruth roi'r gorau i faethu ar ôl sylweddoli nad oedd y sefyllfa yn mynd i wella.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru".

"Rydyn ni'n gweithio yn agos gyda'n cynllun maethu cenedlaethol Maethu Cymru i helpu awdurdodau lleol i sicrhau cyflenwad parod o ofalwyr maeth," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig