Â鶹ԼÅÄ

Galw ar fenter i sicrhau diagnosis canser yn gynt

  • Cyhoeddwyd
Doctor a clafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi buddsoddi bron i £1m ym menter 'Think Cancer'

Dylai cynllun sy'n cynorthwyo meddygon teulu i adnabod symptomau canser yn gynt sicrhau bod mwy o gleifion yn derbyn gofal gwell, yn ôl elusen.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi buddsoddi bron i £1m ym menter 'Think Cancer', sy'n annog doctoriaid i ystyried y clefyd pan fo gan gleifion symptomau.

Un sy'n gefnogol i'r cynllun yw Siwan Bowen a gafodd ganser ceg y groth, ond fe dreuliodd hi flwyddyn yn credu mai symptomau cynnar y menopos oedd ganddi.

Mae unrhyw gynllun sy'n gallu sicrhau diagnosis cynt i'w groesawu, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae dros 60% o gleifion yn ymweld â'u meddyg teulu pan fod ganddyn nhw symptomau all fod yn gysylltiedig â chanser, yn ôl Ymchwil Canser Cymru.

Gan amlaf, cyfrifoldeb darparwyr gofal cynradd yw sicrhau bod cleifion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth gofal canser cywir ar gyfer profion pellach.

'Rhaid bod e'n rhywbeth arall'

Aeth Siwan Bowen o Gaerdydd i weld ei meddyg teulu yn 2015 ar ôl datblygu symptomau oedd yn awgrymu'r posibiliad o ganser ceg y groth.

"Oherwydd ges i brawf ceg y groth yn 2014 oedd yn glir, ges i'r doctor yn dweud gall e ddim fod yn ganser a rhaid bod e'n rhywbeth arall," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siwan Bowen bod ei diagnosis yn "sioc fawr" wedi iddi gael ei sicrhau nad oedd ganddi ganser

"Fe wnaeth hwnna dawelu'n meddwl mewn ffordd - dim canser o'dd e. Felly am flwyddyn gyfan roeddwn i'n mynd nôl a 'mlaen i'r doctor â'r un symptomau.

"Roeddwn i wedi blino ac yn teimlo bod rhywbeth o'i le. Roeddwn i'n teimlo 'mae'n rhaid taw rhywbeth arall yw e te', felly dechreuon ni feddwl am y peri-menopos a bod y newidiadau yn y misglwyf oherwydd hynny a dyna beth sy'n gallu digwydd i bobl yr oedran na.

"Es i am gwpl o brofion eraill ac o'dd dim byd yn dod o'r profion 'na ac felly roedd yn fater o orfod byw â'r symptomau 'ma."

'Canser gradd tri erbyn i fi glywed'

Fe benderfynodd Siwan fynd i'r ysbyty er mwyn cael triniaeth i geisio tawelu rhai o'i symptomau, a dyna pryd cafodd ddiagnosis canser gradd tri.

Dywedodd Siwan: "Roedd e'n sioc fawr i feddwl bo fi wedi bod yn mynd nôl a 'mlaen i'r doctor a chael tawelwch meddwl mewn ffordd mai dim canser o'dd e, a sylweddoli bod e wedi mynd yn ganser gradd tri erbyn i fi glywed.

"Tasen i wedi cael y driniaeth o'dd angen yn syth, falle bydden i ddim wedi gorfod cael y driniaeth ges i, sef radiotherapi, cemotherapi a braciotherapi.

"O'n i ddim yn grac ar y pryd achos o'n i jyst yn ddiolchgar bod e wedi cael ei ffeindio mewn digon o amser, ac yn lwcus i fi o'dd e ddim 'di lledu'n bellach."

Hyfforddiant i adnabod symptomau'n well

Dywedodd pennaeth Ymchwil Canser Cymru, Dr Lee Campbell: "Fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda meddygon teulu ledled Cymru i weld beth oedden nhw angen i'w helpu i adnabod symptomau canser mewn ffordd fwy gwybodus.

"Os gallwn ni sicrhau diagnosis canser yn gynt, mae'n llawer haws i'w rheoli a'u gwella, a hefyd mae cost y driniaeth yn gyffredinol yn gostwng yn sylweddol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Lee Campbell fod costau triniaeth hefyd yn llai os yw diagnosis yn cael ei wneud yn gynt

Ond mae rhai pryderon wedi codi ynglŷn â pha mor effeithiol fydd yr ymgyrch yn yr hir dymor, a'r pwysau gwaith ychwanegol y gallai roi ar wasanaethau diagnostig.

"Mae yna gydbwysedd i gael fan hyn," meddai cyfarwyddwr cenedlaethol Rhwydwaith Canser Cymru, yr Athro Tom Crosby.

"Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl yn derbyn diagnosis yn gynt, ond mae nifer o ymgyrchoedd tebyg naill ai ddim wedi gweithio neu maen nhw wedi llwyddo i gynyddu'r galw ar wasanaethau diagnostig, er gwaetha'r ffaith does yna ddim cynnydd wedi bod yn y niferoedd o ganser sy'n cael eu darganfod."

Fel rhan o'r fenter newydd, bydd derbynyddion hefyd yn cael hyfforddiant i nodi symptomau canser a phasio'r wybodaeth ymlaen i feddygon teulu.

Ond yn amlwg, ni fydd ganddyn nhw unrhyw gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau clinigol.

Bydd cleifion hefyd yn cael "hyrwyddwyr rhwydi diogelwch" yn dilyn eu cynnydd yn fwy aml.

Mi fyddan nhw'n sicrhau bod cleifion sydd â symptomau annelwig neu sydd wedi cael eu cyfeirio at ofal eilradd yn teimlo'n gyfforddus ac yn hapus gyda'r gofal maen nhw'n derbyn.

'Siomi gan y system'

"Rwy'n gwbl gefnogol oir ymgyrch hon," meddai Siwan Bowen.

"Rydw i wedi bod yn glir ers pum mlynedd ond rwy'n teimlo fy mod i wedi fy siomi ychydig gan y system.

"Roedd yn brofiad ofnadwy ar y pryd felly os oes ffordd i helpu i sicrhau nad oes rhaid i bobl fynd drwy hynny yna mae'n rhaid i ni weithio tuag at hynny.

"Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i wella diagnosis cynnar."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae clinigau diagnosis cyflym ar gael ar draws Cymru ac yn chwarae rhan bwysig o ran gwella canlyniadau canser.

"Maen nhw'n darparu opsiwn ychwanegol i feddygon teulu cyfeirio cleifion os ydyn nhw'n amau canser ond dyw'r claf ddim yn bodloni'r meini prawf arferol ar gyfer profion pellach."

Pynciau cysylltiedig