Â鶹ԼÅÄ

Llawer 'ddim yn gwybod' am hawl cael gofal drwy'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
GofalwrFfynhonnell y llun, Getty Images

A hithau'n ddiwrnod gofal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae ymdrech o'r newydd wedi ei lansio i ddenu siaradwyr Cymraeg o bob gallu i ystyried gyrfa yn y maes.

Mae cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol wedi bod yn uchelgais ers sawl blwyddyn.

Ond i lawer o siaradwyr Cymraeg, mae'r gallu i ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn debygol o fod yn hanfodol i'w gofal.

Dywedodd un swyddog sy'n gweithio yn y maes bod angen "bombardio pobl â'r Gymraeg" er mwyn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael.

Fe fydd gofal yn bwnc trafod mawr ar faes y Brifwyl ddydd Iau gyda chyfarfodydd trafod a sgyrsiau wedi'u trefnu. Hefyd, am 12:00 bydd y cyhoeddiad am enillydd gwobr Gofalu yn y Gymraeg 2023.

Mae'r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Mae pethau yn dechrau gwella'

Mae Llio Jones yn gweithio i Age Cymru ac hefyd yn ofalwr.

Mae'n dweud mai rhan bwysig o gynnig gofal yw sicrhau bod gan bawb gyfle i dderbyn gofal yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Llio Jones: "Mae angen lot fawr o sgiliau, yn enwedig y sgil o wrando"

"Dwi'n gwneud gwaith gofal personol yn Nefyn a'r Felinheli," meddai.

"Mae pawb yn ddiolchgar am y gwaith dwi'n ei wneud. Mae gofalwyr yn brin, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, ond mae pethau yn dechrau gwella yn yr ardal hon.

"Mae'n faes mae pobl yn meddwl amdano fel un sydd heb sgiliau, ond mae angen lot fawr o sgiliau, yn enwedig y sgil o wrando.

"Dwi wrth fy modd yn gwneud y job a gallu helpu rhywun."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison Cairns yn falch o fedru siarad yr iaith wrth ei gwaith yn y sector gofal

Fe ddylai hi fod yn ofynnol i bobl ddysgu'r Gymraeg os ydyn nhw am weithio yn y sector iechyd a gofal, yn ôl Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Fe ddywedodd Alison Cairns wrth raglen Dros Frecwast fod defnyddio'r Gymraeg wrth ei gwaith yn y sector yn bwysig iawn iddi.

"'Dw i mor falch mod i'n medru cerdded mewn i dÅ· pobl a siarad eu hiaith, eu mamiaith gyda nhw.

"Ti'n gweld pan mae pobl yn siarad Saesneg efo nhw, mae'n anodd iddyn nhw... ac maen nhw'n dechrau poeni.

"Pan ti'n siarad Cymraeg, maen nhw'n agor mwy atoch chi, ac mi wyt ti'n cael mwy o sgwrs efo nhw."

Yr iaith sydd fwyaf cyfarwydd iddynt

Mae gallu siarad â rhywun yn eu mamiaith yn bwysig iawn i les llawer o siaradwyr Cymraeg sy'n derbyn gofal.

Yn aml iawn bydd pobl hŷn yn troi'n ôl at yr iaith sydd fwyaf cyfarwydd iddynt, ac weithiau dim ond yn eu hiaith gyntaf y mae pobl sydd â chyflyrau fel dementia yn gallu mynegi ei hunain.

Mae Sandie Gieve yn swyddog datblygu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn dweud fod darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Sandy Gieve: "Dydy hi ddim yn deg i bobl fregus [sy'n] methu esbonio be' sy'n bod"

"Mae o'n fwy na hawl," meddai.

"Mae lot o bobl ddim yn gwybod bod ganddyn nhw'r hawl i ofyn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn aml yn fregus. Mae cyfathrebu yn bwysig.

"Beth os yw rhywun methu gwneud, dweud neu ddisgrifio be sy'n bod arnyn nhw oherwydd bod sgiliau iaith ddim ganddo neu y geirfa?

"Dydy hi ddim yn deg i bobl fregus eu bod nhw'n cael eu rhoi mewn sefyllfa fel hyn ac yn methu esbonio be' sy'n bod."

Mae'n cyfaddef fod recriwtio yn broblem, ond ychwanegodd bod "rhaid cario 'mlaen i godi ymwybyddiaeth fel ddigwyddodd gyda seat belts mewn ceir neu annog pobl i beidio smocio".

"Mwya' i gyd da ni'n siarad Cymraeg, yn cynyddu ymwybyddiaeth am yr iaith... yn wir yn bombardio pobl â'r Gymraeg, dwi'n meddwl y bydd yn gwneud gwahaniaeth o ran gwasanaethau gofal."