Dysgwr y Flwyddyn 2023: Cwrdd â Tom Trevarthen

Disgrifiad o'r fideo, Cyfweliad â Tom Trevarthen

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, un o'r seremonïau fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr.

Yn wreiddiol o Hartford yn Lloegr mae Tom Trevarthen, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth, wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Symudodd Tom i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011, cyn mynd yn ei flaen i wneud cwrs TAR a chael swydd yn Ysgol Henry Richard, yn Nhregaron.

Saesneg yw pwnc Tom Trevarthen, ond mae'n siarad llawer o Gymraeg gyda'i ddisgyblion erbyn hyn hefyd.

Yn esbonio'i resymau dros fynd ati i ddysgu, fe ddywedodd Tom Travarthen ei bod hi'n "hen bryd" iddo ddechrau dysgu Cymraeg.

"Dwi wedi byw yma ers sbel ac roedd hi'n hen bryd i fi ddechrau dysgu, i fod yn onest. Roedd tipyn o Gymraeg efo fi, dim ond geiriau, ond llynedd nes i jest penderfynu reit - dwi'n mynd i ddysgu."

Disgrifiad o'r llun, Mae Tom yn athro Saesneg yn Ysgol Henry Richard

Ym mis Medi 2022, fe wnaeth Mr Trevarthen y penderfyniad i fynd ati i ddysgu'r iaith "o ddifrif", ac mae wedi llwyddo i wneud hynny mewn llai na blwyddyn.

"Dwi wedi joio dysgu Cymraeg, mwy nag unrhyw beth arall fi erioed wedi gwneud i fod yn onest," meddai.

"Mae'r profiad o ddysgu Cymraeg yn rhywbeth hwylus, mae gramadeg fi'n ofnadwy dwi'n gwybod. Dwi 'rioed wedi eistedd i lawr a dysgu lot o reolau, ond dyna fe, dwi'n joio medru'r iaith yn y ffordd dwi'n gallu.

"Fi'n 'neud bron pob camgymeriad, wrth gwrs llawer o rai treiglo, ond dwi'n trio fy ngorau i stopio - fi'n addo!

"Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan lawer o bobl, ond mae plant yr ysgol wedi bod yn hollbwysig. Dwi wedi trio ysbrydoli nhw hefyd.

"Mae sawl plentyn yma sy'n siarad Cymraeg fel ail iaith a dy'n ni wedi bod yn ymarfer Cymraeg gyda'n gilydd hefyd. Felly mae 'na ddiolch mawr i'r plant."

'Prowd iawn'

Yn athro Saesneg yn Ysgol Henry Richard, mae'r plant yn sicr yn falch o'i lwyddiant, gan gynnwys rhai o ddisgyblion Blwyddyn 7.

"Mae Syr yn grêt eniwe, ond mae jyst mor neis bod e'n gallu siarad Cymraeg nawr hefyd. Ma' fe'n neud fi tamed bach mwy cyfforddus bod e'n gallu siarad Cymraeg nawr hefyd," meddai Gwenno.

Dywedodd Teifi ei fod "wedi dysgu lot mewn amser byr iawn ac mae'n gallu helpu ni mwy nawr os oes rhywun ddim yn deall".

Yn cytuno, mae Lois yn "browd iawn" o'i hathro gan ddweud: "Fi rili ddim yn dda ar Saesneg o gwbl, ac nawr bod e'n gallu siarad Cymraeg mae jyst gymaint gwell ac yn 'neud ni mor gyfforddus."

Fe fydd cyfle i gwrdd gyda'r tri arall sydd ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddydd Mercher yr Eisteddfod.