Â鶹ԼÅÄ

Gwobr Undeb Amaethwyr i ohebydd amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Steff M
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Messenger yn derbyn ei ebor nos Fercher yn y Sioe Fawr

Mae gohebydd amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi derbyn gwobr gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) am ei "waith newyddiadurol rhagorol".

Nos Fercher ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd derbyniodd Steffan Messenger wobr goffa Bob Davies am ei adroddiadau ar y diwydiant amaeth.

Bwriad y wobr yw cydnabod rôl y cyfryngau wrth "amlygu materion ffermio a materion gwledig, a dod â chefn gwlad yn nes at y rhai nad ydynt efallai'n ymwneud yn uniongyrchol â'r diwydiant".

Mae'r wobr yn cael ei rhoi er cof am Bob Davies, o'r Trallwng, a fu'n gweithio i gylchgrawn y Farmers Weekly am 44 mlynedd - ysgrifennodd yn helaeth am achosion o glwy'r traed a'r genau a BSE.

Disgrifiad,

Steffan Messenger yn derbyn ei wobr

Dywedodd llywydd UAC, Ian Rickman: "Mae gan y cyfryngau rôl hynod o bwysig i'w chwarae o ran amlygu pam bod ffermio'n bwysig."

'Cywirdeb ac empathi'

"Heno rydyn ni'n diolch i Ohebydd Amgylchedd y Â鶹ԼÅÄ, Steffan Messenger, am ei waith rhagorol," ychwanegodd.

"Nid yn unig y mae wedi ein helpu i dynnu sylw at yr effeithiau torcalonnus a'r dinistr llwyr y mae ymosodiadau ar dda byw yn eu cael ar ein ffermwyr, ond mae wedi mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n peri pryder inni megis effeithiau Brexit, ffermydd cyngor sir, a materion NVZ.

"Mae wedi gwneud hynny mewn ffordd sympathetig ac wedi cofnodi'r newidiadau, y datblygiadau a'r anfanteision yn ein diwydiant gyda chywirdeb ac empathi."

Pynciau cysylltiedig