Lluniau'r Sioe Frenhinol: Dydd Llun

  • Awdur, Rhys Ffrancon
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae'r Sioe Fawr wedi dechrau yn Llanelwedd a'r torfeydd wedi dod yn eu miloedd i ganolbarth Cymru.

Mae sôn bod mwy o anifeiliaid yn cystadlu eleni nac erioed o'r blaen, ac felly mae digon i'w weld yma.

Dyma rai o'r golygfeydd o'r Sioe Ddydd Llun.

Disgrifiad o'r llun, Llewellyn, Ieuan ac Eleri o Gaerdydd yn mwynhau yn y Pentref Fwyd
Disgrifiad o'r llun, Ar garlam rownd y prif gylch
Disgrifiad o'r llun, Y sied ddefaid yn ei gogoniant yn gynnar fore Llun
Disgrifiad o'r llun, Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael ei holi gan Iwan Griffiths
Disgrifiad o'r llun, Richard Tucker sy'n ffermio yn y Gŵyr yn paratoi y gwartheg charolais
Disgrifiad o'r llun, Emyr o Lithfaen ym Mhen LlÅ·n yn cystadlu gyda'i fochyn yn y categori saddleback
Disgrifiad o'r llun, Bella, sy'n dair oed ac o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau rhoi mwytha' i'r geifr
Disgrifiad o'r llun, Trio (Steffan Lloyd Owen, Bedwyr Gwyn Parri ac Emyr Wyn Gibson) yn siarad efo Shân Cothi cyn perfformio'n fyw ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Disgrifiad o'r llun, Roedd torf fawr yn edrych ar y sioe gŵn ble roedd y ci'n neidio i'r dŵr i nôl gwahanol bethau
Disgrifiad o'r llun, Defaid Balwen mewn rhes yn barod am y feirniadaeth
Disgrifiad o'r llun, Mererid, gyda'i brodyr Pedr a Brynmor o ardal Aberteifi yn rhoi cynnig ar y peirianwaith
Disgrifiad o'r llun, Canolbwyntio'n hollbwysig i'r gof
Disgrifiad o'r llun, Mae rhywbeth at ddant pawb yn y pafiliwn bwyd
Disgrifiad o'r llun, Erbyn diwedd y prynhawn roedd y cawodydd wedi stopio ac roedd yr awyr las i'w gweld
Disgrifiad o'r llun, Coco (tair oed) a'i brawd bach Axel (blwydd oed) yn cael seibiant yn yr haul ar ddiwedd p'nawn

Hefyd o ddiddordeb: