Â鶹ԼÅÄ

Lluniau'r Sioe Frenhinol: Dydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae'r Sioe Fawr wedi dechrau yn Llanelwedd a'r torfeydd wedi dod yn eu miloedd i ganolbarth Cymru.

Mae sôn bod mwy o anifeiliaid yn cystadlu eleni nac erioed o'r blaen, ac felly mae digon i'w weld yma.

Dyma rai o'r golygfeydd o'r Sioe Ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Llewellyn, Ieuan ac Eleri o Gaerdydd yn mwynhau yn y Pentref Fwyd

Disgrifiad o’r llun,

Ar garlam rownd y prif gylch

Disgrifiad o’r llun,

Y sied ddefaid yn ei gogoniant yn gynnar fore Llun

Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael ei holi gan Iwan Griffiths

Disgrifiad o’r llun,

Richard Tucker sy'n ffermio yn y Gŵyr yn paratoi y gwartheg charolais

Disgrifiad o’r llun,

Emyr o Lithfaen ym Mhen LlÅ·n yn cystadlu gyda'i fochyn yn y categori saddleback

Disgrifiad o’r llun,

Bella, sy'n dair oed ac o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau rhoi mwytha' i'r geifr

Disgrifiad o’r llun,

Trio (Steffan Lloyd Owen, Bedwyr Gwyn Parri ac Emyr Wyn Gibson) yn siarad efo Shân Cothi cyn perfformio'n fyw ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Roedd torf fawr yn edrych ar y sioe gŵn ble roedd y ci'n neidio i'r dŵr i nôl gwahanol bethau

Disgrifiad o’r llun,

Defaid Balwen mewn rhes yn barod am y feirniadaeth

Disgrifiad o’r llun,

Mererid, gyda'i brodyr Pedr a Brynmor o ardal Aberteifi yn rhoi cynnig ar y peirianwaith

Disgrifiad o’r llun,

Canolbwyntio'n hollbwysig i'r gof

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhywbeth at ddant pawb yn y pafiliwn bwyd

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn diwedd y prynhawn roedd y cawodydd wedi stopio ac roedd yr awyr las i'w gweld

Disgrifiad o’r llun,

Coco (tair oed) a'i brawd bach Axel (blwydd oed) yn cael seibiant yn yr haul ar ddiwedd p'nawn

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig