Â鶹ԼÅÄ

Cyngor cymuned yng Ngwynedd wedi colli £9,000 i dwyll ariannol

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd £9,000 ei ddwyn o Gyngor Gymuned Harlech gan berson oedd yn cynnig gwaith ymgynghorol

Fe wnaeth cyngor cymunedol yng Ngwynedd golli £9,000 o arian cyhoeddus i dwyll ariannol, yn ôl cofnodion o ddechrau'r flwyddyn.

Mewn cofnodion cyfarfod o 9 Ionawr ar eu gwefan, dywedodd Cyngor Cymuned Harlech eu bod wedi colli'r arian drwy dwyll APP (authorised push payment).

Yn ôl gwefan HSBC, mae APP yn fath o dwyll lle mae troseddwr yn twyllo pobl i drosglwyddo arian iddyn nhw, yn hytrach na'i gymryd heb iddyn nhw sylwi.

Dywedodd y cyngor: "Mae'r trysorydd wedi adrodd bod y cyngor yn anffodus wedi colli £9,000 drwy sgam gan berson o'r enw Oluwafeni Odunuga - a wnaeth ddatgan ei fod yn mynd i wneud gwaith ymgynghorol i'r cyngor a bod angen taliad o flaen llaw."

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod y trysorydd wedi cysylltu gydag adran dwyll eu banc, a'u bod wedi delio gyda'r mater ar y pryd.

Ychwanegodd clerc y cyngor, Annwen Hughes: "Mae'r mater yma wedi cael ei ddelio gyda gan y cyngor cymuned, ac ni fydd yn cael ei drafod ymhellach."