Ymchwiliad Covid: 'Cyrff yn cael eu trin fel gwastraff gwenwynig'

Disgrifiad o'r llun, "Ni chafodd fy nhad farwolaeth dda" meddai Anna-Louise Marsh-Rees.

Mae menyw a gollodd ei thad gyda'r coronafeirws wedi dweud bod cyrff pobl a fu farw o Covid "bron yn cael eu trin fel gwastraff gwenwynig".

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees, wrth siarad ag ymchwiliad Covid-19 y DU ddydd Mawrth, ei bod yn credu bod ei thad, Ian Marsh-Rees, wedi dal y feirws tra yn yr ysbyty.

Bu farw Mr Marsh-Rees, 85, o'r feirws ym mis Hydref 2020 yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni ar ôl cael ei dderbyn yno gyda phroblem gyda'i goden fustl (gall bladder).

Dywedodd Ms Marsh-Rees - sylfaenydd y grŵp Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Covid Cymru - wrth yr ymchwiliad, "ni chafodd fy nhad farwolaeth dda.

"Mae mam yn crio'n ddyddiol - fe hoffem i ryw newid ddigwydd yn eu hoes.

"Os nad ydyw, maen nhw'n cael y teimlad nad oedd neb yn malio."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Ian Marsh-Rees, 85, o'r feirws ar ôl mynd i Ysbyty Nevill Hall

Esboniodd fod y rhan fwyaf o aelodau'r grŵp wedi'u heffeithio gan heintiau Covid a ddaliwyd mewn ysbytai a chartrefi gofal.

"Mae'n ein poeni ni i gyd," meddai.

"Roedd pobl yn arfer dweud eu bod yn y lle iawn pan fyddant yn mynd i'r ysbyty.

"Dydw i ddim yn siŵr a fydden nhw'n dweud hynny bellach."

Roedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud wrth Ms Marsh-Rees bod 13 o gleifion ar ward ei thad wedi profi'n bositif yn ystod ei arhosiad ysbyty, yn ogystal â 14 aelod o staff.

Cafodd bron i chwarter y bobl sydd wedi marw gyda Covid yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Gwasanaethodd Ian Marsh-Rees yn y Royal Signals ym Malaysia a Singapore

Mae profiad Ms Marsh-Rees o geisio cael gwybodaeth gan y bwrdd iechyd am yr hyn a ddigwyddodd bellach yn ysgogi ei hymgyrch i gael atebion i'w thad a theuluoedd eraill yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n cynnig "sylwebaeth barhaus" ar yr ymchwiliad.

Mae llefarydd ar ran y bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn parhau i estyn eu "cydymdeimlad dwysaf" i deulu Marsh-Rees.

"Ar yr adeg dan sylw, roedd darpariaeth ddigonol o PPE ar gael ac roedd staff yn parhau i gadw at weithdrefnau rheoli heintiau a amlinellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd," meddai.

"Er bod llawer wedi'i ddysgu am reoli'r feirws hwn, bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi archwiliad pellach a bydd y bwrdd iechyd yn cefnogi'r broses hon yn llawn."

Mae 11,966 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid wedi eu cofnodi yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau fis Mawrth 2020.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â'r haint ar eu lefel wythnosol isaf ers dwy flynedd.

Fe gafodd pedair o farwolaethau eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 7 Gorffennaf gyda thair o'r rheiny yn sgil Covid.

Roedd y bobl hynny fu farw gyda Covid yn yr wythnos ddiweddaraf dros 65 oed, gyda 94% o'r holl farwolaethau yn sgil Covid hyd yma yn 2023 ymhlith y grŵp oedran hwnnw hefyd.