AS Ceidwadol Môn wedi mynychu digwyddiad er rheolau Covid

Disgrifiad o'r fideo, Beth yw barn y cyhoedd ar Ynys Môn ynglŷn â sefyllfa Virginia Crosbie?

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn wedi ymddiheuro am fynychu digwyddiad yn Llundain yn ystod cyfyngiadau Covid.

Mewn datganiad fe wnaeth Virginia Crosbie ymateb i "adroddiadau" am ddigwyddiad gafodd ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2020.

Cadarnhaodd Ms Crosbie fod y digwyddiad wedi'i gynnal a'i bod hi wedi mynychu, ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon unrhyw wahoddiad.

Dywedodd hefyd mai am gyfnod byr oedd hi yno ac na wnaeth hi yfed na dathlu ei phen-blwydd.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Ms Crosbie i gyfeirio ei hun at Heddlu Llundain ac at Gomisiynydd Safonau San Steffan.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Virgina Crosbie ei bod wedi mynychu digwyddiad ar 8 Rhagfyr 2020 pan oedd cyfyngiadau Covid mewn grym

"Ynghylch adroddiadau am ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020 hoffwn nodi'r ffeithiau," dywedodd.

"Ni anfonwyd y gwahoddiad ar gyfer y digwyddiad hwn gennyf i. Fe wnes i fynychu'r digwyddiad am gyfnod byr, ni wnes i yfed a wnes i ddim dathlu fy mhen-blwydd. Es i adref yn fuan wedyn i fod gyda fy nheulu.

"Rwy'n ymddiheuro'n ddiamod am ennyd o gamgymeriad wrth fynychu'r digwyddiad."

Mae Ms Crosbie yn gyn-ysgrifennydd preifat seneddol i'r cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llinos Medi o Blaid Cymru fod "Ms Crosbie wedi dangos dirmyg at y bobl mae hi yn eu cynrychioli"

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi o Blaid Cymru, y "bydd pobl Ynys Môn yn hynod siomedig".

"Fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Matt Hancock yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, roedd Ms Crosbie yn llwyr ymwybodol ei bod yn torri'r rheolau wrth fynychu parti pen-blwydd ynghyd â sawl Aelod Seneddol Ceidwadol arall.

"Rydym yn ymwybodol o'i pharodrwydd i weld bai ar wleidyddion am gamymddwyn.

"Wrth bartïo yn Llundain tra bod ein bod ni ar Ynys Môn yn cadw at y rheolau, mae Ms Crosbie wedi dangos dirmyg at y bobl mae hi yn eu cynrychioli yn ogystal â'r cyfreithiau roedd hi ei hun yn rhannol gyfrifol am eu llunio.

"O dan yr amgylchiadau, rwy'n gobeithio bydd Ms Crosbie yn cyfeirio ei hun at Heddlu Llundain ac at Gomisiynydd Safonau San Steffan er mwyn iddyn nhw ymchwilio os oedd y parti yn anghyfreithlon ac os bydd angen unrhyw gamau pellach."

Dywedodd Heddlu'r Met eu bod yn asesu gwybodaeth newydd am nifer o honiadau o dorri rheolau Covid yn 2020 a 2021, ond na fydd diweddariad nes ei bod yn briodol gwneud hynny.