'Dw i wedi cael dros 100 o apwyntiadau Covid hir'

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Evans yn dal i fyw gyda symptomau Covid hir
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Pan darodd don gyntaf coronafeirws ym mis Mawrth 2020, roedd Gareth Evans o Gwmbrân yn hyfforddi ar gyfer triathlon.

Wythnosau ar ôl i'r cyfyngiadau cyntaf cael eu cyhoeddi, datblygodd Gareth boen yn ei glust, blinder difrifol a gwres.

Gyda diffyg profion yn her ar y pryd, methodd Gareth â chael diagnosis.

Tair blynedd yn ddiweddarach, mae Gareth, sydd bellach yn 45 oed, yn byw gyda Covid hir o hyd.

"Ro'n i'n iachus iawn. Ro'n i arfer chwarae rygbi a rhedeg," dywedodd.

"Mae'n rhwystredig iawn. Dwi ddim yn gwybod sut i drin Covid hir."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roedd Gareth yn ffit ac yn hoff o redeg a chwarae rygbi cyn iddo ddechrau profi symptomau

Yn ôl llefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, byddai buddsoddi mewn clinigau arbenigol ar gyfer Covid hir yn gwneud trin cleifion yn "haws" yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru bod cynnydd wedi bod yn yr arian sydd yn cael ei roi i'r gwasanaethau adfer ar gyfer cleifion Covid hir, gan ychwanegu fod y gefnogaeth yn flaenoriaeth o hyd.

Wrth i ymchwiliad cyhoeddus yn Llundain ofyn cwestiynau er mwyn dysgu gwersi am y pandemig, y gred yw bod o leiaf 2% o'r bobl sy'n dal Covid-19 yng Nghymru yn dioddef symptomau flwyddyn ar ôl cael diagnosis.

'Wedi cael dros 100 apwyntiad'

Yn ôl Gareth, mae angen cyflwyno clinigau arbenigol yng Nghymru i drin cleifion Covid hir.

"Dwi wedi cael dros 100 apwyntiad.

"Dwi'n gwerthfawrogi'r cymorth dwi wedi ei gael ond i fi, yn amlwg, dyw e ddim yn ddefnydd da o adnoddau yn fy marn i."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae byw gyda Covid hir yn rhwystredig, meddai Gareth

Un peth sydd wedi "bod yn help mawr" i Gareth yn ei frwydr gyda'i symptomau ydy'r gymuned o bobl mewn sefyllfaoedd tebyg ar-lein.

"Mae pawb yn trio dysgu am Covid hir felly 'da ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae disgwyl i ni fyw gyda Covid."

Ei obaith, fel nifer eraill yn y grŵp cleifion ar-lein, yw y bydd clinigau arbenigol yn cael eu sefydlu yng Nghymru er mwyn fynd i'r afael a'r heriau mae nifer yn eu hwynebu o hyd.

Er nad oes clinigau arbenigol ar gael yng Nghymru i drin Covid hir, mae modd cael mynediad i wasanaethau adferiad drwy feddygon teulu.

"Dwi'n siarad â chleifion arall, yn Lloegr er enghraifft, ac mae clinigau ar gael," meddai Gareth.

"Hoffwn i weld rhywbeth fel 'na yma hefyd. Ar hyn o bryd mae disgwyl i ni i fynd at y meddyg lleol ac maen nhw'n gallu cyfeirio chi i'r arbenigwyr addas.

"Ond mae'n broses hir dros amser."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dr Llinos Roberts y byddai pobl yn "cael gofal mwy cynhwysfawr" gyda chlinigau arbenigol

Mae gan Dr Llinos Roberts o Sir Gaerfyrddin brofiad o drin cleifion gyda Covid hir, ac mae'n cefnogi'r syniad o sefydlu clinigau arbenigol yng Nghymru.

"'Tasai gennym glinigau penodol ar gyfer Covid-19, mi fyddai hynny yn gallu hwyluso'r broses o gyfeirio pobl at gael cyngor arbenigol," meddai Dr Roberts, sy'n llefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

"Dwi'n meddwl fyddai pobl, siŵr o fyd, yn cael gofal mwy cynhwysfawr."

Er ei chefnogaeth, mae hi'n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â'r ffaith fod y gymuned feddygol yn parhau i ddysgu am drin Covid hir.

'Cynyddu cyllid'

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod darparu gofal i gleifion yn parhau yn flaenoriaeth yng Nghymru.

"Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn darparu dull wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cefnogi a thrin pobl â Covid hir drwy wasanaethau Adferiad.

"Rydym wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer Gwasanaethau Adferiad i £8.3m yn barhaus er mwyn galluogi byrddau iechyd i adeiladu'r gwasanaethau hyn ymhellach ac yn gynaliadwy."