Â鶹ԼÅÄ

Menter i brynu tafarn sy'n 'galon' cymuned Llanuwchllyn

  • Cyhoeddwyd
EaglesFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn yr Eagles yn "galon y gymuned" yn ôl cadeirydd y fenter

Mae menter gymunedol wedi ei sefydlu yn Llanuwchllyn, Gwynedd, i brynu a rhedeg tafarn sy'n "galon y gymuned".

Fe gyhoeddodd perchnogion yr Eagles yn gynharach eleni y byddai'r dafarn yn mynd ar werth.

Dywedodd cadeirydd y fenter y byddai colli'r dafarn yn ergyd i'r pentref.

Mae'r fenter wedi gosod targed i godi £500,000 er mwyn ei rhedeg fel tafarn, tŷ bwyta a siop gymunedol.

Disgrifiad,

Yr Eagles: "Mae o'n fwy na thafarn"

Mae enw da tafarn yr Eagles yn denu pobl o bob cwr o'r byd yn ôl Grisial Llywelyn, cadeirydd y fenter.

"Mae'r Eagles yn fwy na dim ond tafarn. Dyma galon ein cymuned," dywedodd.

"Mae'r bar, bwyty a'r siop yn dod a'r gymuned gyfan ynghyd o ddydd i ddydd, yn cynnal a chefnogi cymdeithasau lu.

"Byddai colli'r Eagles yn ergyd aruthrol i ni fel pentref ac i'r ardal gyfan.

"Rydym ni fel Pwyllgor yn benderfynol felly i wneud llwyddiant o'r fenter gyffrous yma."

Disgrifiad,

Fideo o 2021 am bryderon perchnogion tafarn yr Eagles yn ystod cyfnod o gyfyngiadau Covid-19

Mae Eleri a Meirion Pugh wedi bod yn berchnogion ar y dafarn ers dros 20 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod clo, fe siaradon â Â鶹ԼÅÄ Cymru am bryderon staffio wrth lacio cyfyngiadau Covid-19.

'Atgofion melys'

Fe wnaethon nhw gyhoeddi yn gynharach eleni eu bod am werthu'r dafarn.

"Mi fydd gennym atgofion melys iawn o'r Eagles a chymdeithas glos Llanuwchllyn," dywedodd Eleri.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri a Meirion Pugh (chwith) wedi rhedeg y dafarn ers dros 20 mlynedd

"Mae hi wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r gymuned ers cyhyd," ychwanegodd Eleri.

"Er y bydd gennym hiraeth mawr o roi'r gorau iddi, rydym yn edrych ymlaen i eistedd ar ochr arall y bar, ac wrth ein boddau fod y gymuned am gymeryd yr awenau i sicrhau ffyniant y lle arbennig yma."

Ychwanegodd Grisial Llywelyn ei bod yn "diolch i Eleri a Meirion am dros 20 mlynedd o wasanaeth diflino".

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Plunkett Foundation, Cwmpas a llu o Fentrau Cymunedol ar hyd a lled Cymru," dywedodd.

'Cadarnle i'r iaith'

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd fod y prosiect yn "fenter hanfodol".

"Mae'r croeso cartrefol gan Eleri a Meirion yn yr Eagles yn rhan annatod o galon y gymuned.

"Mae'n gadarnle i'r iaith, a bydd y fenter hon nid yn unig yn diogelu'r Eagles ond hefyd yn rhoi cyfleon cyffrous i ddyfodol a ffyniant yr ardal a'r gymuned.

"Rwy wir yn galw am gefnogaeth ariannol ac ymarferol i'r fenter arbennig hon gan unrhyw gyrff cyhoeddus yn ogystal â'r cyhoedd".

Mae pwyllgor y fenter yn paratoi i gyhoeddi cynnig cyfranddaliadau yn fuan gyda'r nod o brynu'r dafarn erbyn fis Hydref.

Pynciau cysylltiedig