Cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo yn ennill medal Carnegie

Ffynhonnell y llun, Rocet Arwel Jones

Disgrifiad o'r llun, Yn ystod y seremoni dywedodd Manon Steffan Ros ei bod wrth ei bodd yn derbyn y wobr

Llyfr Glas Nebo yw'r llyfr cyntaf wedi'i gyfieithu i ennill medal Yoto Carnegie am lenyddiaeth.

Mae gwobrau Yoto Carnegie yn dathlu llwyddiant eithriadol ym maes ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, ac maen nhw yn cael eu beirniadu gan banel arbenigol o lyfrgellwyr plant a phobl ifanc.

Enillodd y gyfrol Gymraeg wreiddiol, Llyfr Glas Nebo, wobrau niferus, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2019.

Mae'n stori sy'n archwilio hunaniaeth a diwylliant Cymreig a Chymraeg, ac yn cynnig portread hardd o iaith.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dywedodd Janet Noble, Cadeirydd Beirniaid Gwobrau Yoto Carnegie 2023: "Yn The Blue Book of Nebo, mae'r ffordd fedrus y caiff y cysyniad o adeiladu byd ei gyfleu, a lleisiau nodedig y ddau brif gymeriad, sef y mab a'i fam, yn gorfodi'r darllenydd i gwestiynu ei berthynas ei hun â'r byd modern."

Ffynhonnell y llun, Yoto Carnegie

Disgrifiad o'r llun, Mae'r enillwyr yn derbyn gwerth £500 o lyfrau i'w rhoi i lyfrgell o'u dewis, Gwobr Colin Mears o £5000, a medal aur

Mae'r awdur adnabyddus Manon Steffan Ros yn byw yn Nhywyn. Mae hi wedi ysgrifennu 23 o lyfrau i oedolion a phlant, ac wedi ennill Gwobr Llyfrau Plant Tir na n-Og bedair gwaith.

The Blue Book of Nebo yw'r nofel Saesneg gyntaf ar gyfer oedolion ifanc i Manon ei chyhoeddi, a hynny gan Firefly Press, enillydd Gwobr Gwasg Fechan y Flwyddyn yng Nghymru gan y British Book Awards.

Roedd beirniaid y gystadleuaeth yn edmygu'r "gwerthfawrogiad o iaith, darllen a llenyddiaeth" ac yn ei disgrifio fel "torcalonnus", "teimladwy" ac yn "gyfoethog o ran diwylliant Cymreig".

Yn sgil llwyddiant The Blue Book of Nebo mae Firefly wedi sicrhau dau deitl arall gan yr awdur ar gyfer oedolion ifanc, sef Feather (Pluen), a Me and Aaron Ramsey (Fi ac Aaron Ramsey), i'w cyhoeddi yn Saesneg yn 2024.

'Wrth fy modd'

Dywedodd Manon Steffan Ros: "Roeddwn i'n arfer gweld y gair 'Carnegie' ar gloriau fy hoff lyfrau pan oeddwn yn blentyn, ac mae'r ffaith fod The Blue Book of Nebo yn awr wedi derbyn yr anrhydedd honno'n golygu mwy nag y galla i ei gyfleu - ac rydw i wrth fy modd mai hwn yw'r tro cyntaf i lyfr wedi'i gyfieithu ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu."

Disgrifiad o'r llun, Yn 2019 enillodd Manon Steffan Ros Llyfr y Flwyddyn

"Un o freintiau pennaf fy mywyd oedd y fraint o gael fy magu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cael mynediad i ddwy iaith wedi rhoi cymaint o bleser a chyfleoedd i mi.

"Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o fwrlwm diwylliant Cymraeg enfawr, bywiog, a ffyniannus.

"Mae pob iaith yn ehangu a chynnig persbectif unigryw ar y byd, ac felly mae gan lenyddiaeth wedi'i chyfieithu y potensial i wir gyfoethogi ein bywydau. Efallai nad yw eich hoff lyfr wedi cael ei gyfieithu hyd yn hyn i iaith rydych chi'n ei deall," ychwanegodd.

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru: "Rydym wrth ein boddau bod Manon wedi ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, ac yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf ati. Mae'n wych bod gwaith Manon yn derbyn y gydnabyddiaeth hon, ac mae'n brawf o'i thalent ragorol fel storïwr.

"Er mai The Blue Book of Nebo yw'r llyfr cyntaf iddi ei gyfieithu ar gyfer oedolion ifanc, mae Manon, wrth gwrs, wedi ysgrifennu nifer o lyfrau Cymraeg, ac mae hi wedi mireinio'i sgiliau a'i chrefft fel awdur dros amser ac mewn sawl genre gwahanol, trwy gystadlu mewn eisteddfodau, ysgrifennu nofelau i oedolion a phlant, yn ogystal ag ysgrifennu i'r sgrin a'r llwyfan.

"Rydym yn gobeithio y bydd ennill y wobr hon yn galluogi mwy o bobl i ddarganfod a mwynhau gwaith Manon."

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwerth £500 o lyfrau i'w rhoi i lyfrgell o'u dewis, Gwobr Colin Mears o £5000, a medal aur.

Bydd Manon Steffan Ros yn rhoi'r llyfrau i lyfrgell Tywyn yng Ngwynedd, ei llyfrgell leol lle yr ysgrifennodd rai o'i llyfrau ar adeg pan nad oedd ganddi ryngrwyd yn ei chartref.