Â鶹ԼÅÄ

Caerffili i groesawu ras seiclo'r Tour of Britain

  • Cyhoeddwyd
Lars Boom and Geraint Thomas on Caerphilly MountainFfynhonnell y llun, Tour of Britain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cymro Geraint Thomas [dde] yn cystadlu pan ddaeth y ras i Gaerffili yn 2013

Eleni mi fydd ras seiclo'r Tour of Britain yn gorffen yng Nghaerffili, gyda'r dref yn cynnal wythfed cymal y gystadleuaeth ar 10 Medi.

Fe wnaeth y ras hefyd ymweld â'r dref ddegawd yn ôl pan ddaeth tua 10,000 o bobl i wylio'r seiclwyr ar fynydd Caerffili yn ôl y trefnwyr.

Bydd y cymal eleni yn dechrau ym Mharc Gwledig Margam, ger Port Talbot, cyn dringo mynydd Caerffili ddwywaith a gorffen yng nghanol y dref.

Yn ôl cytundeb rhwng trefnwyr y ras a'r llywodraeth mi fydd Cymru yn cynnal unai cymal cyntaf neu gymal diwethaf y Tour of Britain neu'r Women's Tour pob yn ail flwyddyn hyd at 2026.

Dyma fydd y pedwerydd tro i Gaerffili groesawi'r ras.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd y ras yn gorffen ger Castell Caerffili

Dywedodd arweinydd cyngor Caerffili, Sean Morgan: "Mi fydd y cefndir godidog o Gastell Caerffili yn darparu lleoliad ysblennydd wrth i'r beicwyr groesi'r llinell derfyn - yn enwedig ar ôl iddyn nhw ddringo mynydd Caerffili.

"Dwi'n siŵr y bydd trigolion a busnesau yn ymuno gyda mi wrth groesawi'r digwyddiad a fydd yn helpu rhoi Caerffili ar y map i gynulleidfa ryngwladol."

Mae disgwyl i fwy na miliwn o bobl ddod i wylio'r ras ar ei thaith drwy'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mick Bennet, cyfarwyddwr y ras: "Ynghyd â Llywodraeth Cymru roedden am ddylunio cymal a fyddai'n cyfuno drama'r ras gyda'r Tour of Britian yn ymweld ag ardaloedd newydd o'r wlad, ac wrth gwrs cynnwys dringfeydd enwog de Cymru."