Pa mor hir yw'r aros yn eich ardal chi am lawdriniaethau?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yr amser aros cyfartalog yng Nghymru ar gyfer cael clun newydd yw 464 diwrnod

Cleifion yn Abertawe sy'n gorfod aros hiraf ar gyfer llawdriniaethau pen-glin a chlun newydd yng Nghymru, yn ôl data iechyd newydd.

Mae ffigyrau Iechyd a Gofal Digidol Cymru'n dangos amseroedd aros ysbytai fesul ardal, gan gynnwys y gwahaniaethau rhyngddynt, gyda ffigyrau ar gyfer llawdriniaethau cyffredin wedi codi.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod amseroedd aros llawdriniaethau orthopedig "yn llawer hirach nag y mae unrhyw un eisiau gweld".

Mae cynllun gweithredu'r bwrdd yn cynnwys hwb llawdriniaethau newydd er mwyn lleihau'r niferoedd.

Aros hiraf yn Abertawe

Abertawe sydd ar frig y rhestr ar gyfer cael clun newydd, gyda 651 diwrnod o aros ar gyfartaledd yn 2021-22.

Mae hyn chwe mis yn hirach na'r cyfartaledd yng Nghymru, a ddwywaith mor hir â'r aros cyfartalog i gleifion ym Mhowys.

Dangosodd y ffigyrau amseroedd aros misol diwethaf ym mis Mawrth bod ychydig dros 96,500 o gleifion yn aros am lawdriniaeth trawma ac orthopedig yng Nghymru - gyda bron i hanner yn aros dros naw mis.

Ond mae'r ffigyrau mwy manwl yma'n dangos cyfnod tua blwyddyn yn ôl pan oedd amseroedd aros ar eu gwaethaf, yr effaith fesul ardal, a'r llawdriniaethau cyffredin hynny sydd ddim yn y data misol.

Yr aros cyfartalog yng Nghymru oedd 464 diwrnod yn 2021-22.

Ond yn Abertawe roedd hynny'n 651 diwrnod, gydag Ynys Môn yn ail uchaf ar 620 diwrnod.

Ar y llaw arall, dim ond cleifion ym Mhowys (312 diwrnod) a Thorfaen (349 diwrnod) oedd yn gorfod aros llai na blwyddyn ar gyfartaledd.

Abertawe sydd ar frig y rhestr ar gyfer pengliniau newydd, gyda 779 diwrnod - bron i bedair gwaith beth oedd hyd yr aros naw mlynedd yn ôl.

Yr aros cyfartalog yng Nghymru yw 528 diwrnod, gyda'r isaf yn Sir Benfro (247 diwrnod).

Abertawe unwaith eto oedd â'r amseroedd aros hiraf ar gyfer yr holl lawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys (152 diwrnod), tra bod Sir Benfro a Chaerfyrddin dan 90 diwrnod.

Ar gyfer torgesti (hernia) roedd yr aros cyfartalog yn 510 diwrnod yn Abertawe, bedair gwaith yn hirach na Sir Benfro (123 diwrnod).

Ceredigion sydd â'r amseroedd aros hiraf ar gyfer llawdriniaethau cataract - 421 diwrnod - bedair gwaith yn hirach na Sir Fynwy (101 diwrnod).

Pan mae'n dod at lawdriniaethau tonsil mae'r aros cyfartalog ar ei hiraf yn y gogledd, yn benodol yn Wrecsam (451 diwrnod) a Sir Ddinbych (448 diwrnod). Y cyflymaf yw Sir Fynwy (53 diwrnod).

Unedau newydd

Mae cyfyngiadau yn ystod y pandemig wedi cael effaith ar amseroedd aros, yn enwedig ers y don gyntaf pan gafodd llawer o lawdriniaethau oedd ddim yn rhai brys eu gohirio.

O'i gymharu â naw mlynedd yn ôl, pan oedd yn 162 diwrnod, mae'r amser aros cyfartalog ar gyfer llawdriniaethau clun bellach wedi treblu.

Mae'r cynnydd mwyaf yng Nghymru wedi bod yn y galw am bengliniau newydd. Yn 2013 roedd yr aros cyfartalog yn 160 diwrnod, ond nawr mae hwnnw hefyd wedi treblu.

Ond mae amseroedd aros triniaethau cataract wedi gwella, ar ôl i darged newydd ar gyfer y rheiny sy'n wynebu'r risg uchaf gael ei gyflwyno cyn y pandemig.

Ym Mae Abertawe, mae ffigyrau misol y bwrdd iechyd yn dangos bod rhestrau aros trawma ac orthopedig wedi codi i'w pwynt uchaf ym mis Medi llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau wedi cynyddu'n sylweddol ers y pandemig, pan gafodd llawer eu gohirio

Ond hyd yn oed ym mis Mawrth eleni roedd 6,000 o gleifion orthopedig yn dal i aros dros flwyddyn, a 2,500 wedi aros dros ddwy flynedd.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn creu canolfan lawdriniaeth orthopedig ac asgwrn cefn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i weithio drwy'r achosion ychwanegol cyn gynted â phosib.

Bydd tair theatr lawdriniaeth arall, yn costio £6.1m, hefyd ar agor erbyn Mehefin i roi mwy o gapasiti i'r ysbyty, a bydd 10 gwely yn cael eu cadw yn Ysbyty Treforys, Abertawe ar gyfer y cleifion orthopedig sydd wedi aros hiraf.

"Mae anghenion y cleifion hyn yn fwy cymhleth ac mae angen llawdriniaethau yn Nhreforys arnyn nhw, gan ei bod hi'n bosib y byddai angen barn gwasanaethau clinigol arbenigol eraill ar y safle, fel rhai cardiaidd neu arennol," meddai llefarydd.

"Fe allen nhw hefyd fod angen gwely gofal dwys ar ôl eu llawdriniaeth.

"Bydd cymorth clinigol ychwanegol yn cael ei roi i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot er mwyn galluogi rhai o'r cleifion orthopedig sydd ag anghenion cymhleth i gael eu llawdriniaeth yn fanno yn hytrach na Threforys."

Ychwanegodd y llefarydd mai'r bwriad erbyn Ebrill 2024 yw nad oes unrhyw glaf yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth.

"Er y bydd hi'n cymryd tipyn o amser i ddal lan gyda'r holl lawdriniaethau orthopedig, mae'r bwrdd iechyd yn gwneud popeth posib i gynnig apwyntiadau i gleifion mor fuan â phosib," meddai.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod nhw hefyd yn gwneud popeth y gallen nhw i leihau amseroedd aros ar gyfer mathau eraill o lawdriniaethau cyffredin hefyd.