Â鶹ԼÅÄ

Liam Williams i adael Caerdydd am Japan

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Williams yn gobeithio cystadlu yn ei drydydd Cwpan y Byd

Mae cefnwr Cymru a'r Llewod, Liam Williams, i adael Caerdydd ar ôl sicrhau trosglwyddiad i Japan.

Bydd Williams, 32, yn cael ymuno â'r clwb o Japan - sydd heb ei enwi eto - yn dilyn Cwpan y Byd os bydd yn cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth.

Er ddim ond hanner ffordd trwy gytundeb dwy flynedd, roedd Caerdydd yn awyddus i leihau eu bil cyflogau wrth wynebu toriad cyllideb o £2m ar gyfer y tymor nesaf.

Wedi ennill 84 o gapiau i Gymru, mae Williams yn parhau'n gymwys ar gyfer y tîm cenedlaethol ac mae disgwyl iddo fod yn rhan o'u cynlluniau ar gyfer Cwpan y Byd.

Fodd bynnag, deellir bod y symudiad yn dibynnu ar basio archwiliad meddygol llym oherwydd ei hanes hir o anafiadau.

Williams yw'r chwaraewr rhyngwladol diweddaraf i adael rygbi rhanbarthol yng Nghymru.

Bydd Joe Hawkins (Caerwysg), Cory Hill (Japan), Rhys Webb (Biarritz), Tom Francis (Provence), Ross Moriarty (Brive), Will Rowlands (Racing 92) a Dillon Lewis (Harlequins) yn chwarae i dimau y tu allan i Gymru y tymor nesaf.

Mae Leigh Halfpenny, Gareth Anscombe a Rhys Patchell hefyd yn wynebu dyfodol ansicr ar ôl cael eu rhyddhau gan eu timau rhanbarthol.