Â鶹ԼÅÄ

Aelod o fwrdd undeb rygbi yn beirniadu ymchwiliad Â鶹ԼÅÄ

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi beirniadu Â鶹ԼÅÄ Cymru am yr ymchwiliad wnaeth dynnu sylw at bryderon am "ddiwylliant gwenwynig" o fewn yr undeb.

Fe wnaeth Henry Engelhardt, y biliwnydd a gyd-sefydlodd cwmni yswiriant Admiral, ei sylwadau yn beirniadu'r gorfforaeth ar bodlediad Â鶹ԼÅÄ Walescast.

Dywedodd Mr Engelhardt ei fod wedi "clywed am bethau sydd ddim yn rhoi'r Â鶹ԼÅÄ mewn goleuni da, am na wnaethon nhw wrando".

Fe ddefnyddiodd y gair "cyffrogarwch" (sensationalism) i ddisgrifo rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates ar y mater, gan ychwanegu nad oedden nhw "eisiau gwybod" ar ôl cael eu "siarad drwy bethau" gan URC.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Â鶹ԼÅÄ eu bod nhw'n parhau i gredu yng "nghywirdeb a chryfder" eu newyddiaduraeth yn ymwneud â'r stori.

Honiadau 'ddim yn gywir'

Fe wnaeth ymchwiliad Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates ddatgelu honiadau o "ddiwylliant gwenwynig", rhywiaeth a chasineb o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Arweiniodd hynny at ymddiswyddiad y prif weithredwr, Steve Phillips, ac mae tasglu annibynnol nawr wedi cael ei sefydlu i edrych ar y ffordd mae'r sefydliad wedi gweithredu.

Fe wnaeth y prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, hefyd gydnabod i bwyllgor Senedd fod yr undeb "wedi bod yn gwadu maint y broblem" sy'n eu hwynebu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Henry Engelhardt yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru

Ond wrth siarad ar y podlediad, dywedodd Mr Engelhardt fod rhai pethau yn y rhaglen "ddim yn gywir", ac yn "gwneud i bethau edrych yn llawer gwaeth na beth wnaeth ddigwydd, neu hyd yn oed ddim digwydd".

Dywedodd bod hynny wedi dysgu llawer iddo am "newyddiaduraeth, cyffrogarwch a diffyg atebolrwydd".

Mewn ymateb fe gyfeiriodd cyflwynydd y podlediad, Felicity Evans at sylwadau Mr Walker oedd yn cydnabod bod methiant wedi bod yn y ffordd roedd URC wedi delio gyda chyhuddiadau o rywiaeth.

Ychwanegodd Mr Engelhardt bod rygbi dan straen economaidd yng Nghymru, ond bod Stadiwm Principality yn fantais oedd yn dod ag arian i mewn i URC, ac y byddai'r undeb yn "dod allan yn well" wrth i newidiadau gael eu gwneud ar lefel bwrdd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Â鶹ԼÅÄ: "Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn parhau i gredu yng nghywirdeb a chryfder ei newyddiaduraeth yn rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates - 'Welsh Rugby Under the Spotlight'.

"Fe ddatgelodd bryderon difrifol am y ffordd y gwnaeth URC ddelio gydag honiadau o rywiaeth, aflonyddu rhywiol, casineb at fenywod, sylwadau hiliol a homoffobaidd, a bwlio gan gyn-aelod o staff."

Pynciau cysylltiedig