Nia Morais yw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2023-2025

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae Nia Morais yn awdur preswyl gyda Theatr y Sherman

Yr awdur a'r dramodydd Nia Morais o Gaerdydd yw'r Bardd Plant Cymru nesaf.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Lenyddiaeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddydd Iau.

Bydd yn dechrau yn y rôl, sydd ô'r nod o danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth, ym mis Medi.

Mae hi'n olynu'r deiliad presennol, Casi Wyn.

Fe wnaeth Llenyddiaeth Cymru ei disgrifio fel bardd sy'n annog plant i fentro a chwarae gyda'r iaith Gymraeg.

Mae ganddi "angerdd heintus at hunaniaeth", meddai'r corff, ac mae'n "annog eraill i barchu eu hunanddelwedd".

'Mor falch'

Caiff y prosiect ei redeg gan Lenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Sefydlwyd yn 2000, ac ers hynny mae 17 bardd wedi ymgymryd â'r rôl.

Mae gwaith Nia Morais yn aml yn canolbwyntio ar hunanddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith.

Ar hyn o bryd, mae hi'n awdur preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn cyntaf, Imrie, yn teithio Cymru gyda Chwmni Fran Wen a Theatr y Sherman dros haf 2023.

Wrth dderbyn y rôl newydd dywedodd: "Rydw i mor falch i fod yn Fardd Plant Cymru a dwi methu aros i ddechrau!

"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl tipyn o amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar iawn i allu rhannu fy amser gyda phobl ifanc Cymru."