'Cyfrifoldeb i gyfieithu a sillafu'r iaith yn gywir' medd ASau

  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, Uned Wleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, wedi cytuno i ysgrifennu at gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ac at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'w hatgoffa o'u cyfrifoldeb i gyfieithu a sillafu'r Gymraeg yn gywir.

Ymrwymodd i wneud hynny mewn ymateb i AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd, a ddywedodd bod gwallau "yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer".

"Maen nhw'n ddoniol, efallai, ar yr olwg gyntaf," meddai Mr Gruffydd, "ond wrth gwrs maen nhw'n anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg."

Wrth ymateb ei fod yn "hapus iawn" i ysgrifennu yn ôl yr awgrym, ychwanegodd Mr Miles "petasai llai o bwyslais ar y cwyno yn erbyn enwi Bannau Brycheiniog, a mwy o bwyslais ar gywirdeb, efallai y byddem i gyd yn hapusach".

Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio'r enw Brecon Beacons, er bod y parc cenedlaethol wedi gollwng ei enw Saesneg.

'Amharchus a dirmygus'

Mae canllawiau'r Swyddfa Gartref ar gyfer seremonïau dinasyddiaeth - y rhan olaf o ddod yn ddinesydd Prydeinig - yn cynnwys llw teyrngarwch "yn rhegi i Dduw Omnipotent", sef camgyfieithiad o "swear" - tyngu i Dduw hollalluog.

Wrth "gadarnhau teyrngarwch", dywedir ar hyn o bryd "yr wyf i, (enw), yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn gywir y byddaf i, ar ôl dod yn ddinesydd Prydeinig, yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Fawrhydi Brenin Siarl y Trydydd, ei Hetifeddion [sic] a'i Holynwyr [sic], yn unol âr [sic] gyfraith".

Mae'r adduned hefyd yn cynnwys, "rhoddaf fy nheyrngarwch i'r Deyrnas Unedig ac fe barchaf ei hawliau a'i rhyddidau [sic]".

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru, "Rydym yn ymwybodol o'r camgymeriad hwn ac mae'n cael ei gywiro.

"Rydym yn cydnabod bod cyfieithiad cywir o'r llw a'r adduned ar gov.uk yn bwysig i adlewyrchu arwyddocâd ddod yn ddinesydd Prydeinig".

Dywedodd mudiad YesCymru bod y camgyfieithu yn "druenus, amharchus a dirmygus".

Fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud mai problem dechnegol wnaeth achosi gwall sillafu mewn prawf rhybudd argyfwng.

Disgrifiad o'r llun, Gwall yn y neges Gymraeg yn y prawf rhybudd argyfwng

Meddai'r neges, "Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i'ch cadw chi ac eraill yn Vogel."

"Yn ddiogel" ddylai'r neges fod wedi dweud.

Roedd Mr Gruffydd wedi gofyn i'r gweinidog yn y Senedd sut mae Llywodraeth Cymru'n annog a sicrhau cywirdeb ieithyddol yn yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Mr Miles bod Llywodraeth Cymru "wedi hwyluso hyn drwy ariannu adnoddau megis offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg".

Disgrifiad o'r llun, Gall defnyddio cyfieithwyr proffesiynol olygu osgoi camgymeriadau anffodus - oni bai eu bod nhw allan o'r swyddfa, wrth gwrs

Ychwanegodd bod y llywodraeth hefyd yn "ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ddatblygu'r sector cyfieithu a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i feithrin sgiliau iaith".

"Ac wrth gwrs, mae gan safonau a chynlluniau iaith gyfraniad i'w wneud at hyn hefyd," ychwanegodd.

Wrth Gymreigio enw'r brenin i Siarl, mae'r Swyddfa Gartref hefyd yn mynd yn groes i'r proclamasiwn y darparwyd ei eiriau gan Lywodraeth Cymru.

'Crefft yw hi'

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Manon Cadwaladr: "Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio peiriannau cyfieithu ac rydyn ni'n cydnabod bod safon y peiriannau'n hynny'n gwella'n raddol.

"Serch hynny, mae cyfieithu da a chywir yn waith arbenigol. Crefft yw hi. Mae angen sgiliau penodol, yn ogystal â phrofiad".

Ychwanegodd: "Fe wnaiff technoleg cyfieithu sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial fynd â chi rhywfaint o'r ffordd ond mae'n bwysig cofio mai 'artiffisial' ydy'r deallusrwydd hwnnw.

"I gyfieithu'n gywir i'r Gymraeg rhaid wrth ddeallusrwydd go iawn o'n hiaith, ein diwylliant a'r gynulleidfa."