Â鶹ԼÅÄ

'Cyfnod anodd i fusnesau er gostyngiad chwyddiant'

  • Cyhoeddwyd
Teleri a Phil
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri Jones a Phil Thomas yn berchnogion busnes sy'n wynebu heriau oherwydd costau uwch

Mae busnesau'n dal i wynebu heriau er gwaethaf y gostyngiad bychan mewn chwyddiant.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, fe wnaeth chwyddiant ostwng i 10.1% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, a hynny o 10.4% ym mis Chwefror.

Mae chwyddiant yn mesur y gyfradd y mae prisiau'n codi, ond dydy'r gostyngiad ddim o reidrwydd yn golygu y bydd prisiau nwyddau'n disgyn.

Yn y cyfamser, mae prisiau tai yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel isaf ers cyn y pandemig.

Yn ôl rhagolygon economegwyr, roedd disgwyl mwy o ostyngiad yn lefel chwyddiant.

Mae prisiau'n codi'n dal i arwain at gyfnodau anodd i berchnogion busnes, yn ôl rhai a siaradodd â rhaglen Dros Frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Teleri Jones ddim am drosglwyddo costau uwch i'w chwsmeriaid

Dywedodd Teleri Jones, perchennog lolfa goffi'r Hen Lyfrgell yn y Porth, Cwm Rhondda, ei bod yn anodd ehangu'r busnes.

"Mae 'da ni gwsmeriaid sy'n dod yn gyson, ond mae'n anodd iawn i'r busnes dyfu achos yr argyfwng costau byw," meddai.

"Yn amlwg mae llai o arian gan bobl i'w wario, ac hefyd ry'n ni mewn sefyllfa lle dy'n ni ddim yn gallu fforddio cyflogi staff ychwanegol."

'Trio torri ar gostau'

Er bod eu costau ar gynnydd, dywedodd Teleri, dydyn nhw ddim eisiau "rhoi straeon ar bocedi" eu cwsmeriaid.

"Mae costau yn bendant wedi codi, ond dy'n ni ddim wedi codi prisiau i gwsmeriaid oherwydd r'yn ni mewn ardal ddifreintiedig a dwi ddim yn teimlo taw nawr yw'r adeg i basio'r costau 'na mlaen i gwsmeriaid.

"Ni wedi bod yn trial torri ar ein costau ni - fi wedi newid cyflenwr nwy a trydan, fi wedi newid darparwr y peiriant talu a cherdyn.

"Fi hefyd wedi bod yn troi'r gwres lawr... a thrio torri ar gostau fel 'na, ond mae e'n anodd, mae'r rhan fwya' o gostau s'dim modd i fi newid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Thomas wedi gweld ei fil ynni'n treblu dros y tair blynedd diwethaf

Mae Phil Thomas, perchennog Bragdy Twt Lol, Trefforest, hefyd yn dweud ei bod yn gyfnod "anodd".

"O'dd e'n iawn yn dod lan i'r Nadolig gyda gwerthiant anrhegion a phopeth - ond ers mis Ionawr mae wedi bod yn dawel iawn," meddai.

"Mae gwerthiant casgenni - felly y casgenni sy'n mynd yn syth i dafarndai - wedi bod yn eitha' cyson, ond mae'n rhaid i fi ddweud bod gwerthiannau poteli wedi gostwng yn eitha' sylweddol i gymharu â'r amser yma llynedd.

"Mae'n prisiau ni wedi mynd lan oherwydd mae prisiau'r cynhwysion a thrydan wedi mynd lan, felly mae'n rhaid i ni godi prisiau ar boteli neu bydden ni'n colli arian, ond eto mae'r effaith ar ein trosiant yn eitha' sylweddol."

"Os ni'n edrych ar rywbeth penodol fel trydan, ni wedi gweld trydan yn codi 300% - tair gwaith beth oedden ni'n talu dair blynedd yn ôl.

"A 'dyn ni'n eitha' uchel ein defnydd o drydan oherwydd mae'n rhaid i ni ferwi'r cwrw i greu'r cynnyrch mae pobl eisiau, felly mae wedi effeithio ar y pris yn sylweddol.

"Hefyd mae costau staff wedi mynd lan."

'Chwyddiant yn uchel, economi'n wan'

Yn ôl y newyddiadurwr ariannol, Huw Elfed Jones, fe wnaeth chwyddiant ostwng lai na'r disgwyl ddydd Mercher.

"Y disgwyl oedd y byddai'n 9.8%, o dan y lefel 10% 'na, ond doedd o ddim i fod," meddai.

"Mewn difri', be 'dan ni'n ei gael ydy bod prisiau bwyd a diod i fyny bron 20% dros y flwyddyn ddiwethaf - dipyn o godi.

"Dyna mewn gwirionedd sydd wedi codi chwyddiant, bod o dal mor uchel.

"Mae chwyddiant yn dal yr uchaf yn Ewrop ond hefyd mae economi Prydain y gwannaf yn Ewrop."

Mae disgwyl i chwyddiant barhau i ostwng yn raddol eleni.

Fe ddywedodd Canghellor y DU, Jeremy Hunt, fore Mercher fod y Deyrnas Unedig "ar y trywydd cywir" i hynny ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau tai wedi cyrraedd eu lefel isaf ers cyn y pandemig

Yn y cyfamser, mae ystadegau gafodd eu cyhoeddi fore Mercher gan gymdeithas dai Principality yn dangos fod pris cyfartalog tÅ· yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers cyn y pandemig.

Rhwng Ionawr a Mawrth eleni, roedd pris tŷ yn £245,000 ar gyfartaledd - sydd tua £4,000 yn is na'r cyfartaledd yn chwarter olaf y llynedd.

Harri Jones yw Pennaeth Datblygu Cwsmeriaid y Principality.

"Mae 'di bod yn reit arferol i sôn am gynydd o fwy na 10% o flwyddyn i flwyddyn," meddai.

"Mae nifer y tai gafodd eu prynu a'u gwerthu wedi syrthio'n sylweddol hefyd - 17% yn is na'r flwyddyn gynt."

Wrth gyfeirio at ffigyrau chwyddiant, fe ddywedodd mai "cyfuniad o fod yn ddrytach i rywun brynu tÅ· a chostau byw uwch ar yr un pryd" sy'n dal i greu heriau i bobl sy'n chwilio.

"Mae hyn yn newydd da i rywun sydd heb brynu tÅ· eto... ond byddan nhw'n gobeithio bod prisiau'n mynd i ostwng ymhellach."