Â鶹ԼÅÄ

Ai'r Wyddfa fydd y mynydd di-blastig cyntaf yn y byd?

  • Cyhoeddwyd
GwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Cymdeithas Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr yn clirio ysbwriel o'r ardal o gwmpas copa'r Wyddfa

Mae ymgyrch ar droed i geisio sicrhau y bydd mynydd uchaf Cymru yn "ddi-blastig" - ac mai'r Wyddfa fydd y mynydd di-blastig cyntaf yn y byd.

Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y byddant yn cydweithio gyda busnesau lleol er mwyn gwireddu'r nod gyda chyfarfod arbennig wedi ei drefnu yn Llanberis ar 24 Ebrill.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Awdurdod fod prosiect 'Yr Wyddfa Ddi-blastig' wedi ei lansio mewn ymateb i bryder cynyddol am effeithiau gwastraff plastig ar yr amgylchedd.

Bydd y cyfarfod yn Llanberis yn trafod sut i greu 'Llwybr Di-blastig' ym mharth y Wyddfa.

Amcangyfrifir bod tua 600,000 o bobl yn cerdded y llwybrau i ben Yr Wyddfa bob blwyddyn.

Dywed yr Awdurdod y byddant hefyd yn manylu ar gynlluniau i roi gwybodaeth i ymwelwyr ynglŷn â sbwriel a ffyrdd o leihau'r defnydd o blastig untro a chanfod ffyrdd o ailgylchu ac ailddefnyddio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod hefyd yw addysgu ymwelwyr ynglŷn â'r ymgyrch ddi-blastig

Mae Rob a Fiona Nicholson o westy'r Plas Coch, Llanberis eisoes wedi ymrwymo i'r cynllun.

"Yn ein gwesty ar droed Yr Wyddfa, rydym yn credu'n gryf mewn gwarchod yr amgylchedd o'n cwmpas.

"Dyna pam 'dan ni wedi ymrwymo i leihau ein defnydd o blastig untro. Trwy wneud hynny mi allwn gyfrannu at warchod y tirweddau anhygoel yma."

Dywedodd Alec Young Swyddog Prosiect 'Yr Wyddfa Ddi-blastig': "Rydym yn falch o gynnal digwyddiad 'Yr Wyddfa Ddi-Blastig' a chydweithio gyda busnesau yn ardal Yr Wyddfa i warchod y mynydd a'r bywyd gwyllt.

"Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiad yma yn ysbrydoli perchnogion busnes lleol yn ogystal â dechrau sgyrsiau am ffyrdd allwn leihau ein defnydd o blastigion untro, trwy warchod ein helw a diogelu harddwch naturiol Eryri."

"Trwy godi ymwybyddiaeth am leihau gwastraff plastig ar Yr Wyddfa rydym hefyd yn amlygu problemau sbwriel ehangach yn y Parc Cenedlaethol."