'Byddai cost gofal fy mab yn fwy na fy morgais'

Disgrifiad o'r llun, Mae ystyried dychwelyd i'r gwaith yn heriol i Mari (chwith) a Hanna (dde) gan fod costau gofal plant mor uchel
  • Awdur, Mared Ifan
  • Swydd, Newyddion S4C

Wrth i ffigurau'r bwlch cyflog ddangos bod dynion yn dal i ennill mwy o gyflog na menywod, faint o ffactor yw gofal plant?

Yn ôl dwy fam sydd wedi bod yn siarad â Newyddion S4C, mae 'na bwysau i fynd yn ôl i weithio er mwyn peidio cwympo 'nôl yn eu gyrfaoedd.

Ond ar yr un pryd, mae cost meithrinfeydd yn golygu mai dim ond rhai sy'n gallu fforddio anfon eu plant yno.

Dyw Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi eto a fydd y cynnig o ofal plant am ddim yn cael ei ymestyn, fel yn Lloegr, ond mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn y gorffennol na fyddan nhw'n "copïo" polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru'n dadlau hefyd bod nhw eisoes yn gwneud "llawer mwy" na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr ar hyn o bryd.

"Yn yr ardal yma mae [gofal plant] yn £70 y diwrnod," meddai Hanna Jarman o ardal Sblot yng Nghaerdydd, sy'n fam i Emrys, sy'n chwe mis oed.

"Mae hwnna'n golygu, os ydw i'n gweithio tri diwrnod yr wythnos, mae hwnna'n mynd i gostio mwy na morgais fi.

"Fi'n ffodus bod fy rhieni i a rhieni fy ngŵr i yn byw yn agos ond ife hwnna yw'r ateb rili?"

Disgrifiad o'r llun, Ni fyddai Mari yn gallu fforddio dychwelyd i'r gwaith oherwydd costau uchel gofal plant

Mae ei ffrind, Mari Beard - actor ac ysgrifennydd llawrydd - yn cytuno. Mae Bleddyn, ei mab, yn 10 mis oed.

Dywedodd: "Os bysen i yn mynd nôl i wneud gwaith fel oedden i cyn cael Bleddyn, bysen i ddim yn gallu fforddio fe so byse' fe ddim yn gwneud lot o synnwyr i fi... bysen i ddim yn gallu talu'r bills.

"Fi'n sâl eisiau mynd nôl i gwaith i ennill arian fy hunan, ond dyw e jyst ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i wneud hwnna.

"Fel lot o fenywod ma' bod allan o waith am gyfnod hir ddim yn beth da, yn enwedig gyda'r gender pay gap sydd yna yn y lle cyntaf.

"Ma' 'na lot o fenywod yn aros adref gan bod nhw ddim yn ennill gymaint â'u partneriaid."

'Ni'n gweld bod e'n bosib'

Mae Ms Jarman, sy'n gweithio yn yr un maes, yn teimlo'r un ffordd.

"Fi 'di gwario, ers graddio, trwy fy mywyd yn ffeindio gwaith a datblygu fy ngyrfa, ac achos bod fi wedi dewis cael plentyn mae 'na berygl bod hwnna'n mynd i stopio," meddai.

"Jyst bo' ni'n cael gofal plant rhatach neu am ddim, cwpl o ddiwrnodau yr wythnos - bydde' hwnna'n help anferthol.

"Gyda'r cyfryngau cymdeithasol nawr ti'n gweld sut beth yw e mewn gwledydd eraill, ni'n gweld bod e'n bosib."

Disgrifiad o'r llun, Yng Nghaerffili, mae plant yn mynychu sesiynau gyda'r Fenter Iaith leol

Mae gofal plant am ddim eisoes ar gael yng Nghymru i blant tair a phedair oed am 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymestyn gofal plant am ddim i blant dwy oed o dan ei rhaglen Dechrau'n Deg.

Mae'n rhan o gynllun graddol i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, sy'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Ond yng nghyllideb y Canghellor fis diwethaf, roedd addewid i gyflwyno gofal plant am ddim i blant mor ifanc â naw mis yn Lloegr erbyn mis Medi 2025.

Ond does dim arwydd y bydd Cymru'n dilyn Lloegr eto.

"Yr hyn a welwn ni yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru," meddai Mark Drakeford yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog ar 21 Mawrth.

"Dydw i ddim yn copïo neb arall. Mae Cymru yn wlad ddatganoledig, lle rydyn ni'n gwneud ein penderfyniadau ein hunain."

'Sut mae'r arian yn mynd i gael ei roi?'

Yn ôl yr ymgyrchydd Bethan Sayed mae angen eglurdeb gan Lywodraeth Cymru.

"Dwi'n siarad gyda mamau a thadau a ma' pobl yn gweud 'ma'n grêt nawr bo ni'n cael yr arian ychwanegol yma ar gyfer gofal plant'.

"Ac ma' rhaid i fi esbonio 'dan ni ddim yn gwybod eto sut ma'r arian hynny yn mynd i gael ei roi yma yng Nghymru i ofal plant felly paid â gwneud cynlluniau'.

"Ond 'dan ni'n byw mewn cyfnod anodd iawn o ran costau byw ac ma' pobl ishe cael y gefnogaeth i fynd 'nôl i'r gwaith."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Maria Lees o Fenter Iaith Caerffili eu bod yn wynebu heriau recriwtio

Ond mae 'na bryderon hefyd ynghylch a oes digon o staff yn y maes i ymdopi a'r galw cynyddol.

Mae Menter Iaith Caerffili wedi gorfod cau un clwb gofal a gostwng eu capasiti drwyddi draw.

"Rydym ni'n cael cymryd 32 o blant bob bore, pnawn a nos ac yng nghlwb brecwast, ond ar hyn o bryd ry'n ni wedi gorfod capio fe i 24 o blant gan fod ddim digon o staff gyda ni i allu cymryd y niferoedd yna," meddai Maria Lees, swyddog cefnogi gofal plant Menter Iaith Caerffili.

"Ry'n ni wedi gorfod, yn anffodus, cau un clwb carco mewn un ysgol gan fod neb wedi ymgeisio am y swydd arweinydd.

"Mae bendant galw gyda ni. Mae rhieni'n ffonio bron yn wythnosol yn gofyn am lefydd. Does dim digon o staff gyda ni i allu parhau i gynnig y gofal yma iddyn nhw."

'Buddsoddi £70m yn y sector'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn y broses o gyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed ledled Cymru drwy'r llwyddiannus Dechrau'n Deg sy'n rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

"Rydym hefyd yn buddsoddi £70m yn y sector i'w alluogi i barhau i dyfu.

"Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i gyllido am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed o rieni sy'n gweithio, o'i gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr."