Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 1-0 Latfia
Mae Cymru wedi parhau gyda'r dechrau addawol i'w hymgyrch i gyrraedd Euro 2024 gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn tîm gwannaf y grŵp rhagbrofol nos Fawrth.
Er bod tua 100 o lefydd yn gwahanu'r ddau dîm yn netholion FIFA, un gôl oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau o flaen torf lawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond y canlyniad oedd yn bwysig, a bydd y rheolwr Rob Page yn falch iawn o fod wedi ennill pedwar pwynt o'r ddwy gêm gyntaf yn yr ymgyrch, wedi'r gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn Croatia nos Sadwrn.
Bu bron i Harry Wilson roi Cymru ar y blaen o fewn pum munud, ond llwyddodd y golwr Pāvels Šteinbors i arbed ei ergyd o 12 llath.
Danny Ward oedd angen arbed yn dda 10 munud yn ddiweddarach, wrth iddo gadw foli Mārcis Ošs rhag cyrraedd cefn y rhwyd.
Ond Cymru oedd yn pwyso, gyda Kieffer Moore, Neco Williams ac Ethan Ampadu yn cael cyfleoedd i ergydio o bellter, ond ni lwyddodd yr un o'r tri i daro'r targed.
Gyda 40 munud ar y cloc aeth Cymru ar y blaen, wrth i Moore benio i gornel isa'r rhwyd o groesiad Dan James i fynd ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.
Daeth Williams yn agos at ddyblu'r fantais ar ddechrau'r ail hanner, wrth iddo daro'r trawst yn dilyn arbediad da gan Šteinbors.
Ond wedi hynny roedd hi'n ail hanner llawer tawelach o ran cyfleoedd, a'r uchafbwynt i Gymru o bosib fyddai gweld Oli Cooper yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yn y munudau olaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Cymru'n codi i frig Grŵp D, yn gyfartal gyda Croatia ar bedwar pwynt wedi iddyn nhw drechu Twrci nos Fawrth.
Cyn y gêm bu Gareth Bale - y chwaraewr sydd â'r nifer fwyaf o gapiau a goliau yn hanes tîm y dynion - ar y cae yn ffarwelio â'r cefnogwyr, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol ddechrau'r flwyddyn.
Mae tri chwaraewr arall hefyd wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd - Joe Allen, Jonny Williams a Chris Gunter, sydd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Bydd gemau nesaf tîm dynion Cymru ym mis Mehefin, gyda gêm gartref yn erbyn Armenia ac yna oddi cartref yn Nhwrci.