Â鶹ԼÅÄ

Ifan Davies: Rhestr chwarae caneuon 'chillout'

  • Cyhoeddwyd
Ifan davies

Mae gan Radio Cymru ddiwrnod cyfan o gynnwys ar thema ymlacio ar 23 Mawrth. Fel rhan o'r diwrnod mae Ifan Davies, canwr Sŵnami a chyflwynydd Radio Cymru, yn cyflwyno rhestr chwarae 'chillout' mewn rhaglen arbennig, Traciau Chillout gydag Ifan Davies.

Dyma restr chwarae Ifan i'ch helpu i ymlacio:

1. Siula - Golau Gwir

Enw newydd o Gaerdydd sy' wedi ymddangos ar bennod Curadur yn ddiweddar. Mae mwy ar y ffordd yn fuan o be' dwi'n ddeall - edrych 'mlaen.

2. Stwff 26 - Taith

'Nes i glywed hon am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ôl, a dwi heb allu gadael fynd ohoni ers hynny. Chilled go iawn - mor hawdd gwrando arni.

3. Emyr Sion - Addfwyn

Mae Emyr yn chwarae dryms hefo Los Blancos, ac wedi bod yn rhyddhau miwsig o dan enwau gwahanol ers sbel, ond dyma'r tro cyntaf iddo ryddhau cerddoriaeth o dan enw ei hun. Tiwn ar gyfer taith hir yn y car, (yn ddelfrydol, angen bod yn ddiwrnod braf).

4. Thallo - Olwen (Nate Williams remix)

Mae enw Nate wedi bod yn ymddangos o gwmpas y lle dipyn dros y blynyddoedd diwethaf, am ei waith efo Mared a phrosiectau amrywiol mae o'n rhan ohonyn nhw. Mae hon yn ailgymysgiad gafodd ei greu fel rhan o her STEMS ar raglen Sian Eleri rhai blynyddoedd yn ôl, ac er bod hi'n cynnig rywbeth hollol wahanol i'r gwreiddiol, mae alawon Thallo yn torri trwodd mor gryf ag erioed.

5. Sera, Ifan Dafydd, Keyala - Cyffwrdd

Trac ddaeth allan ar DMC fel rhan o gasgliad newydd High Grade Grooves, EP 'nath ddod â 15 artist at ei gilydd mewn pump trac. Mae'r trac yn enghraifft o sain nodweddiadol Ifan Dafydd hefo cyffyrddiadau newydd gan Keyala, yn eistedd o dan lais meddal Sera - neis neis.

Ffynhonnell y llun, SERA
Disgrifiad o’r llun,

Sera

6. Rogue Jones - Y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glân

Un o fy hoff albyms eleni ydi Dos Bébés gan Rogue Jones. Ail albwm hir ddisgwyliedig y band, a mae hon yn un o'r uchafbwyntiau.

7. The Mighty Observer - Paid â Syllu Mewn i'r Gorwel Rhy Hir

Mae hon yn swnio fel fysa hi'n gallu mynd a mynd a mynd am byth... sori, bron i chi golli fi fana.

Disgrifiad o’r llun,

Georgia Ruth

8. Georgia Ruth - Brychni

Pa ffordd well i gloi rhestr chwarae na tiwn bach lyfli ar y piano. Diolch Georgia!