Â鶹ԼÅÄ

Betsi Cadwaladr: 'Nid nawr yw’r amser' i rannu'r bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yn 2020 y daeth bwrdd iechyd y gogledd allan o fesurau arbennig

Nid nawr yw'r amser i "wneud newidiadau strwythurol" i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

Wrth drafod ei phenderfyniad i roi bwrdd iechyd y gogledd yn ôl dan fesurau arbennig, dywedodd nad oedd ganddi "unrhyw fwriad i rannu'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai".

Galwodd y Ceidwadwr Darren Millar am ymddiheuriad i bobl yr ardal am "fethiant" Llywodraeth Cymru i ddatrys "problemau dwfn" y gwasanaeth.

Pwysleisiodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price alwad ei blaid am "strwythur gwahanol" yn hytrach nag "unwaith eto aildrefnu'r cadeiriau ar long sy'n suddo".

'Angen gwelliant sylweddol a chyflym'

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai bwrdd iechyd mwyaf Cymru'n dychwelyd i fesurau arbennig, cafwyd cadarnhad bod holl aelodau'r bwrdd arweinyddiaeth wedi ymddiswyddo.

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd ddydd Mawrth ei bod hi nawr yn "bwysig canolbwyntio ar ansawdd a darpariaeth gwasanaethau, sydd angen gwelliant sylweddol a chyflym".

"Felly nid oes gennyf unrhyw fwriad i rannu'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai, yn enwedig ar adeg pan rydym yn annog cydweithredu a gweithio rhanbarthol sydd ei angen i gefnogi gwell canlyniadau clinigol i gleifion," meddai.

"Byddai ad-drefnu yn aflonyddgar iawn ac yn tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio yn awr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl gogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Eluned Morgan yn amddiffyn ei phenderfyniad yn y Senedd ddydd Mawrth

Ychwanegodd: "Er y bydd mesurau arbennig yn berthnasol i'r sefydliad, hoffwn roi sicrwydd i'r cleifion a'u cymunedau a wasanaethir gan y bwrdd iechyd, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio ar ei gyfer, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau dydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer, gan ganolbwyntio'n gynyddol ar ansawdd a diogelwch.

"Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad ar staff gweithgar ac ymroddedig rheng-flaen y bwrdd iechyd, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu cleifion a gwella eu bywydau."

Ei gobaith, meddai, yw y bydd y penderfyniad "yn mynd â ni ar y llwybr at fwrdd iechyd y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu, y mae ganddyn nhw hyder ynddo ac yn gallu bod yn falch ohono".

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cytuno gyda'i gilydd na ddylai'r bwrdd iechyd fod wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn y lle cyntaf.

"Rwy'n dal i gredu bod y penderfyniad hwnnw'n wleidyddol, waeth beth yr ydych wedi'i ddweud heddiw, ac ni ddylai byth fod wedi digwydd," meddai'r Ceidwadwr Darren Millar AS.

"Fe wnaethon ni alw yn y Siambr hon fis Mehefin diwethaf ar i'r sefydliad fynd yn ôl i fesurau arbennig, ac fe wnaethoch chi wrthod gwrando ar ein galwadau."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, ar ran Plaid Cymru, fod "hyder yn y llywodraeth hon a gallu gweinidogion i roi trefn ar Betsi wedi hen ddiflannu".

Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, ac fe ddaeth allan o fesurau arbennig yn 2020.