Â鶹ԼÅÄ

Solfach: Bwrdd iechyd i redeg meddygfa wrth i'r unig feddyg ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa Solfach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r meddyg teulu sy'n rhedeg y feddygfa bresennol yn ymddeol ym mis Mawrth

Bydd meddygfa yn Sir Benfro yn cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd lleol am flwyddyn wedi i'r gymuned wynebu bod heb feddyg teulu o fis Mawrth.

Roedd pryderon y byddai cleifion yn gorfod teithio o Solfach i Abergwaun neu Hwlffordd ar gyfer triniaeth.

Mae'r unig feddyg teulu sydd yn Solfach ar hyn o bryd yn ymddeol ddiwedd Mawrth.

Disgrifiodd un aelod o'r gymuned y posibilrwydd o fod heb feddygfa leol fel "clatsien fawr" i'r ardal.

Mae 'na 2,400 o gleifion yn perthyn i'r feddygfa, a chleifion oedrannus y pentref glan môr wedi pryderu am orfod teithio ar hyd ffyrdd gwledig am eu gofal.

Fe wnaeth y Panel Practis Gwag ystyried opsiwn arall o anfon cleifion i feddygfeydd eraill yn Abergwaun, Hwlffordd a Thyddewi.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth nifer o drigolion i gyfarfod cyhoeddus diweddar i drafod dyfodol eu meddygfa leol

Ond Bwrdd Iechyd Hywel Dda fydd yn gyfrifol am redeg y feddygfa o ddydd i ddydd a'r ddarpariaeth feddygol o 1 Ebrill am 12 mis.

Hon fydd y chweched feddygfa i gael ei rheoli'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Bydd grŵp yn cael ei sefydlu a fydd yn cynnwys grwpiau cymunedol lleol a phartneriaid eraill i ddod o hyd i ddatrysiad hir dymor ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cynaliadwy yn yr ardal.

'Ddim dros y gwaethaf'

Mae pobl leol wedi galw am sefydlu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol yn y feddygfa i helpu gydag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio yn y pentref.

"Ry'n ni wedi aros yn eiddgar am y pwynt yma yn y broses," dywedodd Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Ifor Thomas.

"Wrth gwrs, dy'n ni ddim dros y gwaethaf eto ond ry'n ni'n croesawu penderfyniad y bwrdd iechyd i gydweithio gyda ni i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i gadw'r gwasanaeth gwerthfawr yn ein cymunedau."

Dywedodd Sue Denman, sy'n gadeirydd ar y gweithgor lleol: "Rwy'n teimlo'n galonogol wedi cyfarfod heddiw gyda'r Bwrdd Iechyd a'r penderfyniad i weithio'n agos gyda ni i gael ateb o ran cadw ein gwasanaeth.

"Fe wnaeth y Bwrdd hefyd gydnabod bod angen ailwampio'r strategaeth gofal sylfaenol rhanbarthol gan fod rhai cymunedau gwledig eraill yn debygol o wynebu sefyllfa debyg i Solfach.

"Rwy'n bositif y gwnawn ni lwyddo i gadw ein meddygfaa datblygu, mewn partneriaeth, wasanaeth integredig a all fod yn batrwm i bob cymuned wledig sy'n wynebu heriau tebyg i ni."

Pynciau cysylltiedig