'Dylai plant sydd â nam golwg gael yr un cyfleoedd'

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Liberty sy'n 11 oed nam ar ei golwg ac mae'n dweud mai rygbi yw ei hoff gamp
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae dros 70 o blant wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiwn rygbi i bobl sydd â nam ar eu golwg ym Mharc yr Arfau.

Mae Sefydliad Rygbi Cymunedol Caerdydd yn ceisio hyrwyddo'r gamp gan mai dim ond un tîm sydd yng Nghymru.

Cafodd y sesiwn ddydd Mercher - y digwyddiad mwyaf o'i fath erioed - ei drefnu ar y cyd rhyngddyn nhw ac elusen RNIB Cymru.

Dywedodd un o gynrychiolwyr yr elusen y dylai plant sydd â nam ar eu golwg "gael yr un cyfleodd â phawb".

Disgrifiad o'r llun, Mae pob plentyn yn haeddu'r un cyfleoedd yn ôl Emma Jones o elusen RNIB Cymru

Dywedodd Emma Jones: "Dw i'n siŵr fod pobl yn meddwl bod hi'n anodd i bobl sydd â nam er eu golwg i chwarae rygbi a dyna bwysigrwydd diwrnodau fel heddi yw ein bod ni'n gallu dangos i bobl eu bod nhw'n gallu chwarae rygbi gyda ffrindiau.

"Dyle' plant gyda nam er eu golwg gael yr un cyfleoedd â phawb i gymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn cadw'n iach a mwynhau eu hunain."

'Braf ymestyn y gêm'

Yn 14 oed, fe roddodd Cai Emlyn o Gastellnewydd Emlyn y gorau i chwarae rygbi. Roedd tiwmor ar ei ymennydd yn golygu ei fod wedi colli 80% o'i olwg ac nid oedd hi felly'n ddiogel iddo chwarae.

Roedd Cai, sy'n 27 erbyn hyn, ar ben ei ddigon ar ôl darganfod rygbi i bobl gyda nam ar eu golwg ar ôl symud i Gaerdydd.

Disgrifiad o'r llun, "Ry'n ni lawr fan hyn bob nos Fercher yn ymarfer a mae'r clwb yn ffanstastig," dywedodd Cai Emlyn

"Mae'n brilliant," dywedodd, "mae'r gymuned sydd lawr fan hyn mor gefnogol i ni. Mae gêm yn dod lan dros y penwythnos yn erbyn yr Harlequins a'r Worcester Warriors.

"Bydd hi'n braf iawn ymestyn y gêm nam golwg ymhellach a gobeithio un dydd bydd yna gynghrair gystadleuol i ni gystadlu ynddi.

"I fi, yn 14, daeth rygbi i ben ac o'n i'n meddwl bod e drosodd. I'r plant yma heddi maen grêt gweld y wên ar eu hwynebau nhw achos nhw yw'r dyfodol i gario'r gêm yma ymlaen."

Ymhlith y plant oedd yno oedd rhai o ddisgyblion Ysgol Gartholwg ger Pontypridd.

Mae gan Liberty, sy'n 11, nam er ei golwg.

"Mae'n anhygoel. Rygbi yw fy hoff gamp," dywedodd.

"Dw i ddim yn gweld yn dda o gwbl... mae gen i broblem yn fy llygad chwith. Mae'n bwysig bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan."

Disgrifiad o'r llun, Mae Dewi'n gwisgo sbectol i gymryd rhan mewn gemau chwaraeon

Mae Dewi sy'n 12 yn gorfod gwisgo sbectol i wneud chwaraeon.

"Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn ffeindio chwaraeon yn fwy anodd felly dwi'n meddwl bod e'n dda fod pawb yn chwarae gyda'i gilydd. Mae chwarae ym Mharc yr Arfau wedi bod yn un o fy mreuddwydion."

Yn ôl Gethin sy'n 13, mae'r sesiynau'n anfon neges bwysig.

"Llawer o amser dyw pobl anabl ddim yn credu eu bod nhw'n gallu gwneud llawer o bethau. Os y'n nhw'n gwbod bod yna gymuned o bobl yn gwneud hyn bydd e'n codi hyder pobl."

Gêm saith-bob-ochr yw rygbi i bobl sydd â nam ar eu golwg.

Mae'r gamp yn debyg i rygbi cyffwrdd gyda thîm yn colli meddiant ar ôl chwe chyffyrddiad.

Does dim cystadlu yn y sgryms na'r llinellau ac mae dynion a merched yn chwarae gyda'i gilydd. Mae cloch yn y bêl hefyd.

'Pwysig gwybod bod llwybr datblygu'

Yn ôl Gareth Davies a sefydlodd y tîm yng Nghaerdydd bedair blynedd yn ôl, roedd y digwyddiad ddydd Mercher yn bwysig gan nad yw pobl wastad yn deall sut beth yw bod yn rhannol ddall.

"Mae gan 90% o bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall rywfaint o olwg felly maen nhw'n gallu gwneud y rhan fwya' o bethau mae pawb arall yn gallu 'neud.

"Mae pobl yn meddwl falle nad y'ch chi'n gallu gweithio, cymdeithasu na chymryd rhan mewn chwaraeon felly mae heddi'n gyfle i herio hynny.

"Hwn yw'r digwyddiad cynta o'i fath yn y byd, be ni'n neud yw creu diddordeb fel bod plant sydd â nam ar eu golwg yn gw'bod bod yna lwybr datblygu iddyn nhw. Mae'n ddiwrnod pwysig o ran datblygu chwaraeon anabl yng Nghymru.

"Mae rygbi byddar a rygbi cadair olwyn wedi hen sefydlu. Ni eisiau gweld rygbi i bobl gyda nam ar eu golwg yn hawlio'i le hefyd."

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw'r unig ranbarth Cymreig sydd â thîm rygbi i bobl â nam er eu golwg ond mae'r criw brwd yn gobeithio gweld y gamp yn tyfu.