Â鶹ԼÅÄ

Arlunydd graffiti yn 'goleuo y corneli mwyaf tywyll'

  • Cyhoeddwyd
Huw EdwardsFfynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Un o feibion Llangennech, Huw Edwards

Mae'r artist graffiti Steve Jenkins o Lanelli newydd gwblhau cyfres o furluniau ym mhentref Llangennech. Wedi eu comisiynu gan gyn-gynghorydd, Gwyneth Thomas, mae'r darluniau lliwgar yn cyfleu stori'r pentref yn y gorffennol a'r presennol ac yn cynnwys glofeydd Morlais, y capel lleol a'r cyflwynydd newyddion a mab y pentref Huw Edwards.

Dywedodd yr arlunydd: "Mae cael y cyfle i wneud gwaith cyhoeddus fel hyn yn wych achos mae'r gymuned gyfan yn gallu elwa o weld y darluniau, dwi'n credu fod nhw'n gallu goleuo y corneli mwyaf tywyll neu'r waliau mwyaf budr a chodi calon."

Roedd y cyfnod clo wedi arwain at newid byd i Steve, oedd wedi gweithio fel trydanwr am 25 mlynedd cyn cael cyfle yn ystod y pandemig i fynd allan i beintio murluniau yn dangos gwerthfawrogiad o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ers hynny mae peintio graffiti wedi bod yn yrfa newydd i Steve gyda'i waith i'w weld mewn nifer o lefydd yn ne Cymru.

Mae wedi bod yn gweithio ar brosiect Llangennech ers rhyw flwyddyn ac yn dweud ei fod wedi mwynhau cyfarfod y bobl leol tra'n peintio yn y tanffordd.

Meddai am lun Huw Edwards: "Mae'n fachgen lleol sy' dal i ddod nôl a mlaen i weld ei fam ac i fynd i ddigwyddiadau lleol. Mae'r pentref yn falch iawn ohono felly 'oedd rhaid i fi gael y teybygolrwydd yn iawn neu fyddai lot o gwynion!

"Mae lot o bobl wedi dweud fod y gwaith yn dal ysbryd y gymuned, sy'n wych achos dyma oedd y nod o'r dechrau."

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Glõwr wrth ei waith ym mhwll glo Morlais

"Digwyddodd y murlun o'r glõwr am mod i'n ymchwilio i hanes glofeydd Morlais a welais i lun o lõwr ar ddiwedd ei shift, ei ddillad a'i wyneb yn frwnt ac yn edrych i fyny fel petai'n edrych am olau dydd. Gobeithio fod y murlun gyda'r glofeydd wrth ei ochr yn edrych fel glõwr ar ddiwedd shifft yn edrych ymlaen at weld golau dydd ar ei ffordd adre.

"Mae llawer o bobl leol wedi stopio i siarad ac wedi sôn fod e'n atgoffa nhw o berthnasau oedd yn gweithio yn y glofeydd ac wedi marw'n ifanc felly mae'n lun emosiynol iawn i nifer o bobl y pentref."

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Trên stêm Y Morlais Express

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Capel pentref Llangennech, Salem

Gwaith arall

Mae gwaith JenksArt hefyd i'w weld mewn llefydd eraill yng Nghymru:

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Murlun ym Mhort Talbot, yn dilyn marwolaeth y cerddor Maxi Jazz

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Murlun Cwpan y Byd ym Mhort Talbot - mae Steve yn cyfuno araith Michael Sheen gyda'r ddraig a niwl coch

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Murlun i gyfleu stori Dic Penderyn, merthyr dosbarth gweithiol oedd yn rhan o chwyldro Merthyr sy' wedi ei gladdu yn Aberafon tua 100 llath o'r gwaith.

Meddai Steve: "Mae'r murlun yn dangos glõwr nesa' i lun o'r chwyldro ym Merthyr tu allan i dafarn y Castle. Mae'r portread o Dic yn ei ddangos yn edrych i'r nef gyda'i eiriau olaf: "O Arglwydd dyma gamwedd."

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd Lles Cefneithin.

Meddai Steve: "Y briff oedd murlun am y glofeydd felly mae'r llun yn dangos glõwr ar ddiwedd ei shift gyda llwch drosto, yn edrych yn ôl at y glofeydd tra'n dal lamp wrth i eraill aros i gychwyn gwaith."

Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Murlun yn Llanelli i gefnogi tîm rygbi Cymru wrth i bencampwriaeth y Chwe Gwlad gychwyn