Â鶹ԼÅÄ

URC: 'Fe wnes i beth allwn i', medd gweinidog chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Dawn BowdenFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dawn Bowden: "fe wnes i beth allwn i yn y ffordd orau y gallwn gyda'r pwerau a oedd ar gael i mi"

Mae gweinidog chwaraeon Cymru wedi dweud "fe wnes i beth allwn i" y llynedd i fynd i'r afael â honiadau o rywiaeth yn Undeb Rygbi Cymru.

Mynnodd Dawn Bowden bod "cyfyngiadau llym iawn" arni oherwydd bod URC yn fusnes annibynnol.

Dywedodd iddi drafod rhywiaeth gyda'r undeb y llynedd, ond ni welodd hi gwynion na honiadau ffurfiol.

"Ni fyddai wedi bod yn briodol i mi fod wedi mynd allan, os hoffech, i chwilio am gwynion," meddai.

Bu pwyllgor chwaraeon Senedd Cymru yn holi uwch swyddogion URC a'r gweinidog chwaraeon ddydd Iau.

Daw ar ôl i honiadau o "ddiwylliant gwenwynig" yn yr undeb gael eu darlledu gan Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates yr wythnos ddiwethaf.

Pa gamau a gymrodd y llywodraeth?

Roedd Aelod Seneddol Llafur, Tonia Antoniazzi, wedi cwestiynu pa gamau a gymrodd Llywodraeth Cymru dros honiadau o rywiaeth a chasineb at ferched yn URC.

Fe gyfeiriodd Ms Antoniazzi, sy'n cynrychioli Gŵyr, at honiadau yn Nhŷ'r Cyffredin fis Mawrth diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tonia Antoniazzi AS ei bod wedi codi pryderon am URC mewn dadl yn NhÅ·'r Cyffredin fis Mawrth diwethaf

Roedd Ms Antoniazzi wedi dweud ei bod wedi codi ei phryderon gyda Llywodraeth Lafur Cymru ar ôl ei haraith yn Nhŷ'r Cyffredin fis Mawrth y llynedd, a bod angen i'r pwyllgor ystyried "pryd y daeth y newyddion hyn yn gyhoeddus".

"Fe wnes i godi fy mhryderon am rywiaeth a chasineb at ferched am y tro cyntaf yn Undeb Rygbi Cymru mewn dadl Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ'r Cyffredin fis Mawrth diwethaf," meddai.

"Yna roedd yna erthygl yn y Daily Mail oedd yn codi'r un pryderon.

"Mae angen i aelodau o'r Senedd ofyn beth ddigwyddodd nesaf. A godwyd pryderon yn Undeb Rygbi Cymru ac a oedd y dirprwy weinidog yn rhan o unrhyw drafodaethau gyda nhw bryd hynny?"

Cadarnhaodd Ms Bowden fod Ms Antoniazzi wedi ysgrifennu ati'r llynedd yn nodi pryderon am gêm y merched ac ymddiswyddiad Amanda Blanc o URC.

Ysgrifennodd hefyd am gwynion dienw, ac mae rhai ohonynt eisoes wedi'u hadrodd yn y wasg.

'Dim manylion'

Dywedodd Ms Bowden wrth bwyllgor diwylliant a chwaraeon y Senedd dydd Iau ei bod wedi codi "mewn nifer o gyfarfodydd" ag URC "yn gyffredinol iawn faterion yn ymwneud â chasineb at ferched, rhywiaeth ac amrywiaeth ar y bwrdd".

Ond ychwanegodd: "Yn amlwg doedd gen i ddim manylion am unrhyw beth felly doeddwn i ddim yn gallu siarad yn fanwl ac ni fyddai wedi bod yn briodol i mi wneud hynny beth bynnag, yn enwedig gan fod un o'r achosion dan sylw yn amodol ar hawliad cyfreithiol bryd hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Charlotte Wathan, fe ddywedodd cydweithiwr gwrywaidd wrthi ei fod eisiau ei "threisio" pan oedd hi'n gweithio i Undeb Rygbi Cymru

Ychwanegodd Ms Bowden: "Fe wnes i beth allwn i yn y ffordd orau y gallwn gyda'r pwerau a oedd ar gael i mi fel gweinidog y llywodraeth o ystyried nad oedd gennyf unrhyw beth ffurfiol, nid oedd gennyf unrhyw dystiolaeth, dim ond yr hyn a oedd yn gyhoeddus oedd gennyf.

"Nid oes gennyf rôl lywodraethu uniongyrchol yn Undeb Rygbi Cymru, felly gwnes yr hyn yr oeddwn yn teimlo oedd yn briodol i mi ei wneud fel gweinidog y llywodraeth yn fy ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru gyda'r hyn oedd ar gael i mi ar y pryd."

Dywedodd wrth ASau hefyd: "Pe bai rhywun yn dod â thystiolaeth uniongyrchol ataf, yn cadarnhau tystiolaeth uniongyrchol, neu hyd yn oed affidafid neu ddatganiad wedi'i lofnodi neu rywbeth... rwy'n meddwl y byddai honno wedi bod yn stori wahanol. Ches i erioed hynny."

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Ms Bowden ei bod wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru ddwywaith yn dilyn darllediad Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates ddydd Llun, 23 Ionawr.

Dywedodd ei bod wedi bod yn ymgysylltu â'r undeb ar y "camau y mae'n rhaid iddo eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r honiadau hyn a sut mae'n darparu amgylchedd diogel i'w staff a rhanddeiliaid ehangach sy'n rhydd rhag aflonyddu a chamdriniaeth o bob math".

Ymddiswyddodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, dros y penwythnos.

Angen 'pâr newydd o lygaid'

Mae'r undeb wedi cyhoeddi y bydd "tasglu allanol" yn cael ei greu i adolygu cyhuddiadau o rywiaeth, casineb at ferched a hiliaeth.

Dywedodd Tonia Antoniazzi AS y dylai cadeirydd y tasglu ddod o'r tu allan i Gymru.

"Dim ond oherwydd bod angen eglurder, mae angen tryloywder," meddai.

"Mae angen iddo fod yn rhywun sydd ddim yn rhan o'r rhwydwaith hen fechgyn neu'n cael ei weld fel rhan o swigen Caerdydd.

"Dewch i ni gael pâr newydd o lygaid ar Undeb Rygbi Cymru a gadewch i ni symud hyn ymlaen."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran URC: "Rydym yn croesawu sylwadau Tonia ac yn edrych ymlaen at weld Chwaraeon Cymru yn penodi cadeirydd annibynnol y tasglu ac yn cadarnhau ei gyfansoddiad.

"Bydd Undeb Rygbi Cymru yn croesawu'r camau brys hyn yn llawn. Byddwn yn agor pob rhan o URC ar gyfer yr ymchwiliad a fydd yn dilyn ac yn ceisio gweithredu ei argymhellion yn ofalus ar ôl ei gwblhau."