Pryder bydd costau ynni yn cau 150 o byllau nofio

Disgrifiad o'r fideo, Ofnau wrth i gostau pyllau nofio 'saethu lan'

Mae pryder y bydd yn rhaid i hyd at 150 o byllau nofio ar draws Cymru orfod cau os na ddaw mwy o gymorth ariannol gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Dyna rybudd Nofio Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys pyllau nofio yn eu Cynllun Cymorth Biliau Ynni, a ddaw i rym ym mis Ebrill.

Mae Nofio Cymru yn amcangyfrif fod tua 100,000 o blant a hyd at 400,000 o oedolion yn nofio bob wythnos ar draws y wlad.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn cydnabod bod cyfleusterau chwaraeon yn wynebu cynnydd mewn costau.

Dywed llefarydd eu bod "wedi rhoi pecyn cymorth o £18bn i sefydliadau fel clybiau, pyllau, canolfannau hamdden, ysgolion, elusennau a busnesau drwy'r gaeaf".

Ond yn ôl prif weithredwr Nofio Cymru, Fergus Feeney, mae'n hynod rwystredig nad yw pyllau nofio yn cael cymorth tebyg i amgueddfeydd a llyfrgelloedd.

'Agos iawn i'r dibyn'

Mae Nofio Cymru a chyrff tebyg yn Yr Alban a Lloegr hefyd yn anhapus na chafodd canolfannau hamdden a phyllau nofio cyhoeddus eu cynnwys yn y cynllun cymorth tanwydd sy'n dod i ben ddiwedd mis Mawrth.

"Allwn ni ddim deall pam bod llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn cael eu hamddiffyn tra bo pyllau nofio ddim, sy'n defnyddio pum gwaith yr ynni," meddai Mr Feeney.

"Mae pyllau yn adnoddau sy'n gofyn am lawer iawn o ynni ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan anferth yn yr ymdrech i gadw ein cenedl yn iach; yn iach yn feddyliol yn ogystal â chorfforol.

"Rydyn ni yn amcangyfri' y gall 30% o byllau Cymru gau heb help. Dyna'r rhai sy'n agos iawn i'r dibyn.

"Mae 'na tua 500 o byllau sy'n agored i'r cyhoedd yng Nghymru felly mi all tua 150 gau. Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod ni yn cael cymorth ariannol dros y flwyddyn nesa'.

"'Da ni yn gofyn am gymorth gan lywodraethau Prydain a Chymru oherwydd rydyn ni angen yr arian yna i gadw y drysau ar agor."

Disgrifiad o'r llun, Mae pwll Calon Tysul wedi gorfod cwtogi eu horiau

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn cefnogi'r galw am ragor o gymorth gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd: "Rydym hefyd yn darparu £16m o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, sy'n cynnwys helpu i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon gyda mesurau arbed ynni."

Pryder am ddyfodol bwll nofio Llandysul

Daw cannoedd o blant a degau o oedolion am wersi a gweithgareddau bob wythnos i bwll nofio Llandysul, Calon Tysul.

Mae costau ynni'r ganolfan wedi cynyddu o £60,000 yn y flwyddyn olaf cyn Covid, i amcangyfrif o £120,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol.

"Mae hyn wedi'n gorfodi ni i gwtogi oriau agor y pwll yn anffodus," meddai Matt Adams, rheolwr Calon Tysul.

"Ry'n ni wedi gorfod blaenoriaethu'r ysgol nofio achos fod dros 350 o blant yn dod yma i gael gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg bob wythnos."

Eleni mae'r pwll wedi derbyn nawdd o ddegau o filoedd gan Fferm Wynt Brechfa, ond all y ganolfan ddim dibynnu am nawdd tebyg y flwyddyn nesaf.

"Oni bai am y nawdd yna fydden ni ddim mewn sefyllfa i gario 'mlaen," meddai Mr Adams.

Disgrifiad o'r llun, Mae rheolwr Calon Tysul, Matt Adams, yn poeni am ddyfodol y pwll

Mae Helen Dunningham wedi bod yn nofio ers 30 mlynedd ac yn un sy'n defnyddio pwll Calon Tysul yn rheolaidd.

"Mae'n ofnadwy o bwysig ei fod yn aros ar agor," meddai. "Fe ddysgais fy meibion i nofio yma ac mae nofio yn bwysig iawn i fi.

"Mae'n rhywbeth dwi'n medru'i wneud a finnau'n hÅ·n, ac mae mor bwysig i ddysgu plant i nofio."

Un arall sy'n defnyddio Calon Tysul yn rheolaidd yw Sally Gilham.

"Rwy'n poeni'n ofnadwy am ddyfodol y pwll," meddai. "Mae angen i lywodraethau wneud mwy achos mae llefydd fel hyn yn cadw pobl yn iach."

Pyllau nofio yn ddefnyddwyr ynni dwys

Mae rhai awdurdodau lleol eisoes wedi trosglwyddo perchnogaeth eu pyllau nofio i gwmnïau preifat.

Mae Freedom Leisure yn rheoli 20 o byllau ar draws Cymru, ac mae'r pris i'w cynnal wedi cynyddu dros £3.5m.

Yn eu pwll ym Mhenlan, Abertawe, mae'r pwll yn cael ei orchuddio er mwyn ceisio cadw'r gwres ac mae tymheredd y pyllau wedi cael eu gostwng yn raddol.

Mae dros £1.4m wedi ei wario yn ddiweddar ar gynyddu effeithlonrwydd eu pyllau.

"Roedden ni wir yn meddwl y bydden ni fel pyllau nofio ar restr Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddefnyddwyr ynni dwys," meddai Jeremy Rowe, un o gyfarwyddwyr Freedom Leisure.

"Mae'n gyfnod caled ac rydyn ni yn pwyso ar y llywodraeth i newid eu penderfyniad ac i'n cynnwys gyda llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn y cynllun disgownt.

"Does ganddon ni ddim syniad pam nad ydyn ni wedi cael ein cynnwys ond rydyn ni wedi gyrru tystiolaeth i ddangos faint o egni sydd ei angen i gynnal a rhedeg pyllau nofio."