Cadeirydd URC yn addo ymchwiliad allanol i'r undeb

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Steve Phillips (chwith) ac Ieuan Evans (dde) yn cyhoeddi Warren Gatland fel prif hyfforddwr newydd Cymru fis diwethaf

Bydd tasglu allanol yn ymchwilio i honiadau o rywiaeth, hiliaeth ac anffafriaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru, yn ôl y cadeirydd Ieuan Evans.

Dywedodd Evans y bydd y prif weithredwr Steve Phillips yn parhau yn ei swydd wrth i'r undeb geisio delio gyda materion a ddaeth i'r amlwg yn rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates.

Ddydd Mercher, ymddiheurodd Evans hefyd am yr honiadau "dirdynnol", gan ychwanegu y bydd cyfarfod o fwrdd URC yn cael ei alw ar unwaith.

Mae Cyfarfod Cyffredinol Arbennig eisoes wedi cael ei alw ar gyfer eleni mewn ymdrech i foderneiddio llywodraethiant yr undeb.

Daw ar ôl i Blaid Cymru a chyn-gynghorydd trais yn y cartref Llywodraeth Cymru alw ar Phillips i ymddiswyddo.

Mae'r cyn-brif weinidiog, Carwyn Jones wedi dweud bod ffydd pobl yn URC wedi ei ysgwyd "i'w seiliau", gan alw am ymchwiliad seneddol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Dim ond ers Hydref 2022 y mae Ieuan Evans wedi bod yn gadeirydd Undeb Rygbi Cymru

Mae'r prif weithredwr Steve Phillips wedi ymddiheuro am yr honiadau, ond dywedodd ei fod yn credu mai ef yw'r dyn i arwain URC.

Mae'r cadeirydd Ieuan Evans wedi ei gefnogi, gan ddweud fod ganddo "hyder llwyr y byddwn ni'n cael hyn yn iawn".

"Mae hynny'n cynnwys Steve," meddai ddydd Mercher.

"Ry'n ni gyd yn atebol yn y pendraw. Dyw hyn ddim am unigolion nawr, mae am y grŵp. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r her gyda'n gilydd."

Angen 'help allanol anferthol'

Ddydd Mawrth fe wnaeth Phillips, a gymrodd yr awenau fel prif weithredwr yn 2020, ymddiheuro am yr honiadau o 2017 i 2019.

Ond gyda rhagor o honiadau wedi i Phillips ymuno hefyd, gofynnwyd i Evans a yw'r arweinwyr presennol yn gyfrifol.

"Ry'n ni'n cymryd cyfrifoldeb am beth sy'n digwydd nawr. Dydw i ddim yma i siarad am beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn gweithio i sicrhau fod "rygbi yng Nghymru ble mae e angen bod".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Steve Phillips wedi ymddiheuro, ond dywedodd ei fod yn credu mai ef yw'r dyn i arwain URC

Dywedodd Evans y bydd URC yn cael ei asesu gan rywun allanol, ac y bydd yntau yn sefydlu tasglu yn fewnol er mwyn "sicrhau eu bod nhw'n adolygu popeth".

"Mae'n gynnar i fynd i fanylder, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny, ond ry'n ni angen arbenigedd allanol," meddai.

"All hwn ddim bod yn adolygiad mewnol. Mae'n rhaid iddo fod yn allanol, gyda'r arbenigedd ry'n ni ei angen gan sefydliadau eraill.

"Fe fyddwn ni'n sortio hyn, gyda help allanol anferthol.

"Mae gen i gyfrifoldeb fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru - sydd wedi bod yn rhan mor allweddol o'm mywyd - i sicrhau fod y diwylliant yn iawn."

'Hollol ofnadwy'

Dywedodd cyn-bennaeth rygbi merched Cymru, Charlotte Wathan, wrth Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates ei bod wedi ystyried lladd ei hun, a bod cydweithiwr gwrywaidd wedi dweud wrthi ei fod eisiau ei "threisio".

Mae URC yn dweud fod yr honiad wedi cael ei ymchwilio yn annibynnol, a'i fod heb gael ei brofi.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ieuan Evans ei fod yn ymddiheuro i Charlotte Wathan a "phawb sydd wedi'u heffeithio"

Yn ymateb i hynny dywedodd Evans ei fod yn "ymddiheuro i bawb sydd wedi'u heffeithio".

"Roedd hi'n ofnadwy ac yn ofidus gwylio'r rhaglen. Fel rhiant i ddwy fenyw ifanc, roedd yn hollol ofnadwy," meddai.

"Rwy'n ymddiheuro eto i'r rheiny a gafodd eu heffeithio, nid yn unig gan y digwyddiadau, ond o wylio'r rhaglen hefyd.

"Mae rygbi'n gêm sy'n dibynnu ar ddiwylliant - ar y cae ac oddi ar y cae. Mae angen i ni wneud y gêm, a'r sefydliad, mor groesawgar a chynhwysol â phosib.

"Byddwn yn mynd i'r afael â'r problemau ac yn adfer hyder a ffydd pobl."

'Datrysiad yn well na Champ Lawn'

Ychwanegodd Evans ei fod yn deall fod enw da yr undeb "wedi cael ei faeddu", ond ei fod yn hyderus fod modd ei adfer.

"Pe byddech chi'n cynnig Camp Lawn i mi, neu ddatrysiad llwyddiannus i hyn, mae'r diwylliant yn cael blaenoriaeth," meddai.

"Byddai cael y diwylliant yn iawn yn well na Champ Lawn i mi."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan Â鶹ԼÅÄ Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.