Â鶹ԼÅÄ

Dim Pentref Ieuenctid yn y Sioe Fawr eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SioeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cyhoeddi na fydd Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

Wrth siarad â Cymru Fyw brynhawn Sadwrn dywedodd Prif Weithredwr newydd CFfI Cymru, Mared Rand Jones bod "y penderfyniad wedi bod yn un anodd ond yn unfrydol yn sgil cynnydd mewn costau".

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd penderfyniad aelodau CFfI Cymru yn unfrydol," medd y Prif Weithredwr Mared Rand Jones sydd newydd ddechrau ar ei swydd

"Mae'n ormod o risg eleni," meddai Ms Jones, "mae costau popeth wedi codi cymaint. Mae sawl pwyllgor ac is-bwyllgor o aelodau wedi bod yn trafod y mater ac fe ddaethpwyd i'r penderfyniad terfynol mewn cyfarfod brynhawn heddiw.

"Mae e'n benderfyniad digalon wrth gwrs gan bod y pentref wedi sicrhau llety diogel ac adloniant i aelodau o'r Ffermwyr Ifanc ar hyd y blynyddoedd ond dyw e ddim yn opsiwn ymarferol eleni. Ma' costau popeth wedi mynd mor ddrud."

'Ddim yn ymarferol yn sgil costau uwch'

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Hefin Evans: "Dyma benderfyniad nad yw'r sefydliad wedi'i wneud yn ysgafn. Mae llawer o feddwl a thrafod wedi digwydd gyda'n haelodau drwy'r prosesau democrataidd sydd ar waith.

"Mae'r argyfwng costau byw, costau tanwydd cynyddol, costau llogi offer wedi cael effaith aruthrol ar y costau isadeiledd gan ei gwneud yn amhosibl i'r sefydliad ei wneud yn opsiwn ymarferol.

"Rhaid inni edrych ar y darlun ehangach a diogelu dyfodol ein sefydliad. Edrychwn ymlaen at y sioe gyda llechen ffres ac ry'n yn gyffrous i groesawu aelodau i'r Ganolfan CFfI."

Dywedodd Siân Lewis, cyn-gadeirydd Clwb CFfI Llanfyllin wrth Cymru Fyw y bydd hi'n golled heb y pentref ieuenctid gan ei fod yn le diogel lle gallai rhieni ollwng plant gan wybod eu bod yn ddiogel.

"Roedd yna swyddogion diogelwch, llety ac adloniant yno ond dwi'n teimlo nad oedd e'n cael digon o gefnogaeth ac i raddau dyw'r penderfyniad ddim yn syndod.

"Yn aml mae'r bobl sydd yno yn aros yn hwyr yn y sioe neu yn mynd i Lanfair-ym-Muallt yn hytrach nag aros i wrando ar yr adloniant sydd wedi'u ddarparu gan y Ffermwyr Ifainc.

"Mae'n siom ond dwi'n deall - er dwi fy hun ddim wedi bod ers 2017 ond mae'n le gwych i aelodau ifanc."

Ychwanegodd datganiad ar ran CFfI Cymru: "Mae'r sioe bob amser yn un o'r prif uchafbwyntiau i lawer o aelodau o bob rhan o Gymru ac ni fydd 2023 yn eithriad.

"Gyda rhaglen gystadlaethau llawn dop yn rhoi cyfleoedd i aelodau ddatblygu sgiliau a chwrdd â ffrindiau o bob rhan o Gymru, mae'r sioe yn nodwedd gyffrous arall i galendr y CFfI.

"Mae'r penderfyniad wedi'i wneud i beidio â rhedeg y Pentref Ieuenctid a rhoi holl ffocws y sefydliadau ar y cyfleoedd y mae'r sioe yn ei gynnig.

"Trwy gystadleuaethau, materion gwledig, cymdeithasu a datblygu partneriaethau, mae'r mudiad yn gobeithio ffynnu ac yn gyffrous i groesawu aelodau i'r Sioe Frenhinol.

Pynciau cysylltiedig