Â鶹ԼÅÄ

Ailagor gwesty gwledig fu'n llety i geiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
Mudwyr yn cyrraedd 29 Hydref 2022Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mudwyr yn cyrraedd y DU ddiwedd Hydref

Mae gwesty moethus yn y gogledd sydd wedi'i ddefnyddio fel llety i geiswyr lloches am ddeufis yn dweud y bydd yn ailagor fel lleoliad gwyliau ym mis Chwefror.

Mewn cam dadleuol, cafodd y gwesty gwledig ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref i roi llety tymor-byr, fel rhan o "gynllun brys" ym mis Tachwedd 2022.

Ond ar eu cyfrifon ar wefannau cymdeithasol, mae'r gwesty yn dweud y bydd yn "croesawu gwesteion yn ôl o 6 Chwefror.

Dydy'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn enwi'r gwesty am resymau diogelwch.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud nad ydyn nhw'n gwneud sylw am safleoedd unigol, ond bod defnyddio gwestai i roi llety i geiswyr lloches yn "annerbyniol".

Wythnosau 'anodd ac ansicr'

Ym mis Tachwedd 2022, fe ddywedodd rheolwyr y gwesty ei fod yn cael ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref i helpu i leddfu'r pwysau ar ganolfannau gorlawn yng Nghaint.

Fe wnaeth hynny arwain at ymateb chwyrn gan rai gwleidyddion yn Aberconwy.

Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar wedi croesawu'r newyddion y bydd y gwesty yn cael ei ddefnyddio eto fel canolfan ar gyfer hamdden a thwristiaeth.

"Fe fydd hyn yn rhyddhad mawr i nifer yma yn Aberconwy," meddai Mr Millar ar gyfryngau cymdeithasol.

"Rwyf eisiau diolch yn enwedig i bobl leol am eu parodrwydd i ddeall ac am eu hamynedd.

"Mae'r gwasanaethau cyhoeddus, yr ysgol, Cyngor Conwy, y bwrdd iechyd a'r meddygon teulu a'r heddlu i gyd wedi gwneud gwaith gwych - llawer o hynny yn dawel y tu ôl i'r llenni - er mwyn sicrhau bod y ceiswyr lloches yn cael gofal tra roedden nhw yma hefo ni.

"Mae wedi bod yn rhai wythnosau anodd ac ansicr, ond mae pawb wedi gwneud eu rhan."

Ar eu cyfrif ar gyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd y gwesty eu bod "wedi cyffroi i ddechrau ar bennod newydd".

"Diolch am eich cefnogaeth ddi-derfyn, rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl yn fuan iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn parhau i fod yn feirniadol o gynllun y Swyddfa Gartref

Mewn datganiad, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy Janet Finch-Saunders yn parhau i fod yn feirniadol o'r Swyddfa Gartref.

"Fe wnaethon ni ddeall drwy sibrydion bod y ceiswyr lloches yn cyrraedd... a nawr rydyn ni'n deall drwy sibrydion eu bod yn gadael," meddai.

"Mae'n glir bod yna angen mawr o hyd i'r Swyddfa Gartref wella'r ffordd y mae nhw'n cyfathrebu.

"Rwy'n gobeithio bod ceisiadau y ceiswyr lloches gafodd eu rhoi yn y lleoliad hollol amhriodol hwn bellach wedi cael eu prosesu."

'Annerbyniol'

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud bod defnyddio gwestai yn ateb dros dro a'u bod yn cymryd camau ar frys i fynd i'r afael â'r ceisiadau am loches.

Fe ddywedodd llefarydd: "Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd angen lloches ar ei lefel uchaf erioed ac mae wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein systemau ar gyfer ceiswyr lloches.

"Mae'r defnydd o westai i roi llety i geiswyr lloches yn annerbyniol - mae yna ar hyn o bryd dros 45,500 o geiswyr lloches mewn gwestai sy'n costio £5.6m y dydd i drethdalwyr.

"Rydyn ni'n trafod gyda'r awdurdodau lleol cyn gynted â phosib pan mae lleoliadau y cael eu defnyddio fel llety i geiswyr lloches ac yn gweithio i sicrhau bod y trefniadau yn ddiogel i'r rhai sy'n aros yna a phobl leol."