Staff ambiwlans i streicio am ddau ddiwrnod fis yma

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhes o ambiwlansys i'w gweld yn disgwyl tu allan i adran frys Ysbyty Gwynedd ddydd Mawrth yr wythnos hon

Bydd gweithwyr ambiwlans yng Nghymru yn streicio ar 19 a 23 Ionawr, wedi iddyn nhw bleidleisio dros weithredu diwydiannol ddiwedd llynedd.

Mae disgwyl i tua 1,000 o barafeddygon, technegwyr meddygol a'r rheiny sy'n gweithio yn y ganolfan alwadau streicio ar y dyddiau hynny.

Undeb Unite sydd wedi cyhoeddi'r streiciau diweddaraf, a daw wedi i staff ambiwlans undeb y GMB weithredu'n ddiwydiannol am 24 awr ar 21 Rhagfyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans a byrddau iechyd er mwyn cael cynlluniau mewn lle ar gyfer argyfyngau ar ddyddiau'r streic.

Fe wnaeth 88% o aelodau Unite yng Nghymru bleidleisio o blaid y ddwy streic 24 awr, ond bydd ambiwlansys ar gael o hyd ar gyfer yr achosion mwyaf brys.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Staff undeb GMB y gwasanaeth ambiwlans yn picedu tu allan i orsaf ambiwlans Caerdydd ar 21 Rhagfyr

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Sharon Graham: "Bydd Unite yn cefnogi ein haelodau ambiwlans yng Nghymru 100%, sy'n streicio er mwyn achub ein GIG.

"Maen nhw'n gweld yn ddyddiol fod y gwasanaeth iechyd yn gwegian, a chael cynnydd tâl go lew ydy'r unig ffordd i wella recriwtio o fewn y GIG a lleihau'r pwysau andwyol ar wasanaethau ambiwlans."

Ychwanegodd ei bod yn cydnabod mai Llywodraeth y DU sydd wrth wraidd yr anghydfod, ond galwodd ar Lywodraeth Cymru i wella eu cynnig o ran tâl er mwyn atal streiciau pellach.

Y streic 'am fwy na thâl yn unig'

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite yng Nghymru, Richard Munn: "Mae'r anniddigrwydd sydd wedi arwain at y streic am fwy na thâl yn unig - mae staff wedi blino'n lân, dan bwysau, ac wedi'r cynnydd pitw o ran tâl, digon yw digon.

"Ry'n ni'n gwybod fod arian yn brin gan Lywodraeth Cymru, ond mae Unite yn galw arnynt i drafod cynnig uwch, fel sydd wedi digwydd yn Yr Alban."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisiau sicrhau'r cyhoedd y bydd "trefniadau'n cael eu gwneud gyda'r undebau er mwyn sicrhau fod lefelau staffio wastad yn ddiogel" ac y bydd achosion sy'n peryglu bywyd yn cael ymateb yn ystod y streiciau.