Treulio 24 awr mewn ambiwlans tu allan i ysbyty

Disgrifiad o'r llun, Wayne Erasmus: "Oedd e'n shambles, dyle fe ddim bod y ffordd 'ny"

Mae dyn 63 oed wedi disgrifio sut y treuliodd bron i 24 awr yn aros mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Treforys.

Wedi i Wayne Erasmus gael trafferthion anadlu fore dydd Nadolig, fe ffoniodd ei deulu 999.

Ond bu'n rhaid i Mr Erasmus aros yn yr ambiwlans dros nos cyn cael ei drosglwyddo i'r Uned Feddygol Acíwt (AMU) y diwrnod wedyn.

Parhau wnaeth y disgwyl am wely, serch hynny, gyda Mr Erasmus yn treulio Gŵyl San Steffan yn cysgu ar lawr yr uned.

Bellach wedi'i ryddhau o'r ysbyty yn dilyn chwe diwrnod o driniaeth mae Mr Erasmus wedi gwneud cwyn ffurfiol yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n dweud y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i'r digwyddiad.

'Ma fe'n shambles'

Fe ddeffrodd Mr Erasmus, sy'n byw yn yr Hendy, fore Nadolig yn methu ag anadlu.

"Pob tro oeddwn i'n peswch roedd mucus yn dod lan, roeddwn i ffili anadlu," dywedodd wrth Newyddion S4C.

Ffynhonnell y llun, Google

"Dydd Nadolig roeddwn yn yr ambiwlans, ar yr ail ddiwrnod ces i fewn i'r adran A&E... ond doedd 'na ddim gwely o gwbl, roedd mess y cythraul yna.

"Gormod o gleifion a ddim digon o staff, ond chware teg i'r staff roedden nhw'n dda."

Yn ôl Mr Erasmus roedd un dyn yn ei 70au wedi eistedd mewn cadair yn yr adran frys am bum noson, ac yntau'n ddibynnol ar beiriant ocsigen.

"Ma fe'n shambles," ychwanegodd.

"Roedd un nyrs wedi gweithio drwy'r Nadolig am saith diwrnod, heb weld y teulu."

'Drist dros y nyrsys'

Dywedodd Mr Erasmus ei fod wedi cael gwybod ar y nos Fawrth mai ond un pryd poeth fyddai'n cael ei ddarparu y dydd, gydag ond brechdanau ar gael fel arall.

"Oedd e'n shambles, dyle fe ddim bod y ffordd 'ny.

"Oedd yr A&E yn orlawn, doedd ddim cadair sbâr na gwely sbâr. Mae failing gyda management yn fy marn i.

"Roedd e fel pe bai ti mewn rhyfel, odd e'n shambles i gyd ond roeddwn yn teimlo'n drist dros y nyrsys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ddiweddarach cafodd ei drosglwyddo i ward lle derbyniodd ocsigen, nebiwlydd a steroidau cyn cael ei ryddhau ar y chweched diwrnod.

Ers bod yn yr ysbyty, mae Mr Erasmus wedi ysgrifennu llythyr at Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwyno am ei brofiad.

Gan nodi ei rwystredigaeth am y nifer oedd yn methu gadael yr ysbyty ac nad oedd modd rhyddhau gwlâu am nad oedd darpariaeth amgen ar gyfer cleifion, dywedodd bod angen gwell trefn ar gyfer amgylchiadau o'r fath.

'Ymchwilio'n drylwyr'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am y pryderon y mae Mr Erasmus wedi'u codi.

"Byddant yn cael eu hymchwilio'n drylwyr yn unol â'n trefn gwyno. Felly byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.

"Fodd bynnag, byddwn yn ymateb yn uniongyrchol i Mr Erasmus unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau."

Ddydd Mawrth, mewn ymgais i ryddhau cymaint o wlâu â phosib, gofynnwyd i deuluoedd cleifion a oedd yn aros i gael eu rhyddhau i fynd â nhw adref cyn gynted â phosibl.

Disgrifiad o'r llun, Dr Rhodri Edwards: "Gorau po gyntaf y bydd y claf adref"

"Bydd hyn nid yn unig yn help mawr i'r GIG drwy ein helpu i ryddhau mwy o welyau ar gyfer cleifion sâl sy'n aros amdanynt, ond o fudd sylweddol i'w teuluoedd," dywedodd Dr Rhodri Edwards, Cadeirydd Clinigol Meddygaeth y bwrdd.

"Nid ysbyty, mewn gwirionedd, yw'r lle gorau i rywun nad oes angen gofal acíwt arnynt mwyach.

"Mae risg gwirioneddol i gleifion sy'n aros ymlaen mewn gwely ysbyty acíwt y byddant yn dal haint gan gleifion sâl.

"Neu fe allan nhw ddechrau colli cryfder a gallu - trwy beidio â bod ar eu traed ddigon.

"Mae arosiadau hir yn yr ysbyty yn aml yn arwain at golli cryfder yn y cyhyrau a sgil-effeithiau eraill fel rhwymedd a chwympo, felly gorau po gyntaf y bydd y claf adref."