Galwadau ambiwlans 'coch' 62% yn uwch wythnos y Nadolig

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd nifer y galwadau 'coch' i'r gwasanaeth ambiwlans dros yr wythnos ddiwethaf 62% yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod llynedd.

Er mai dim ond o ychydig (2%) y gwnaeth cyfanswm y galwadau gynyddu, fe dderbyniodd y gwasanaeth 1,532 o'r galwadau mwyaf brys sy'n bygwth bywyd rhwng 20-27 Rhagfyr, o'i gymharu â 946 yn 2021.

Problemau anadlu oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros alw 999, ac yna achosion o ddisgyn a phoenau yn y frest.

Daw hynny wrth i un o benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddweud bod gwasanaethau yn y gogledd wedi wynebu pwysau "eithriadol" yn dilyn nifer uchel y cleifion oedd angen triniaeth.

Amseroedd aros hirach

Er bod nifer ychydig yn llai o gleifion yn cael eu cludo i'r ysbyty, mae ambiwlansys yn parhau i wynebu oedi wrth aros y tu allan i ysbytai gan nad oes digon o welyau ar gael ar gyfer y rhai sydd eisoes yn cael eu trin.

Mae diffyg gofal cymdeithasol yn y gymuned hefyd wedi effeithio ar lif cleifion trwy ysbytai, gyda chyfraddau'r gwelyau sy'n cael eu defnyddio yn parhau i fod yn uchel.

Mae ffigyrau gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dangos bod 3,286 o gleifion wedi eu cludo i'r ysbyty rhwng 20-27 Rhagfyr eleni, 16% yn llai na'r llynedd.

Ond fe wnaeth yr amser aros cyfartalog cyn trosglwyddo cleifion i staff ysbyty gynyddu i ddwy awr 16 munud - dros awr a hanner yn hirach na'r flwyddyn flaenorol.

Yn y cyfamser mae'r galw ar wasanaeth 111 dros yr wyth diwrnod diwethaf wedi mwy na dyblu o'i gymharu â'r llynedd, er mai dim ond ym mis Mawrth 2022 yr cafodd y gwasanaeth ei ymestyn yn llawn i bob rhan o Gymru.

Bu dros 99,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 (oedd 15% yn uwch na'r un cyfnod yn 2021) ac fe gafodd y gwasanaeth gwirio symptomau ei ddefnyddio dros 6,000 o weithiau (cynnydd o 50%).

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth fod ymholiadau yn ymwneud â phroblemau anadlu, clust/trwyn/gwddf a firysol i gyd yn llawer uwch nag arfer.

'Pwysau sylweddol eto'

Yr wythnos cyn y Nadolig fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd "ddigwyddiad difrifol" o ganlyniad i'r pwysau ar wasanaethau brys - a hynny mewn cyfnod ble mae'r bwrdd iechyd eisoes dan y lach.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Nick Lyons, fod cyfnod y Nadolig wastad yn brysurach ond ei bod hi'n "eithriadol" eleni.

"Mae nifer uchel o gleifion wedi bod angen triniaeth ar gyfer ffliw, Covid, yn ogystal â phlant yn sâl gyda firysau fel RSV a Strep A," meddai.

Ychwanegodd bod disgwyl i bwysau ar y gwasanaeth iechyd wynebu "pwysau sylweddol eto'r wythnos nesaf", gan ddweud eu bod yn ddiolchgar nad oedd gweithwyr ambiwlans yn streicio ar hyn o bryd.

"Bydd llawer yn dibynnu ar beth sy'n digwydd o ran achosion Covid a ffliw dros y dyddiau nesaf, achos maen nhw wedi bod yn rhoi pwysau eithriadol ar ein gwasanaethau," meddai.