'Cyn gynted â ti'n hapus yn dy hun, mae pethau'n dechre digwydd'

Disgrifiad o'r llun, Gethin Jones

"Mae bywyd mor gymhleth ond ar ddiwedd y dydd - gallwn ni symleiddio fe i wneud be sy'n 'neud ni'n hapus"

Dyna gyngor y cyflwynydd Gethin Jones wrth edrych yn ôl ar 2022 ac ar ddechrau 2023.

Bu 2022 yn flwyddyn ddiddorol i Gethin wrth iddo gamu nôl i fyd addysg a derbyn gradd meistr mewn rheolaeth chwaraeon tra'n parhau i gyflwyno'r rhaglen ddyddiol, Morning Live, ar Â鶹ԼÅÄ1.

Gethin fu'n adlewyrchu ar ei flwyddyn a'r hyn sy'n Gwneud Bywyd yn Haws iddo ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

Dychwelyd i'r brifysgol er mwyn ymdopi ag ansicrwydd gwaith

Lansiwyd y rhaglen gylchgrawn, Morning Live, ar Â鶹ԼÅÄ1 nôl yn Hydref 2020. Yn un o gyflwynwyr cyntaf y rhaglen sy'n darlledu yn fyw o Fanceinion ar foreau Llun-Gwener, mae Gethin mewn gwaith cyson ar hyn o bryd.

Ond, dyw'r ansicrwydd sy'n ei wynebu fel cyflwynydd teledu ddim wastad yn hawdd.

Meddai: "O'n i yn mynd i cwitio teledu, a'r rheswm oedd Strictly: It Takes Two.

"O'n i yn neud It Takes Two ar y pryd a wedyn am ba bynnag reswm - nathon nhw ddod â Rylan Clark i mewn sydd ddigon teg, ond nes i feddwl, dwi 'di bod yn neud y job yma am bedair blynedd.

Disgrifiad o'r llun, Gethin (trydydd o'r chwith) a'i gyd-gyflwynwyr ar Morning Live

"Mae'r cyfryngau yn anodd - o'n i wedi bod mor lwcus ond o'n i'n meddwl os maen nhw yn neud penderfyniadau fel'na - be fi mynd i neud wedyn.

"Es i i Bali i ffindio fy hun - dwi erioed wedi ffindio fy hun yn Bali - maen nhw yn gweud bo chi yn ffindio eich hun yna a chi ddim."

Ar ôl dychwelyd adref o Bali a chyn i Covid daro'r wlad, penderfynodd Gethin pa faes fyddai'n ei weddu petai'r gwaith cyflwyno'n sychu ac yn ei orfodi i newid gyrfa.

"Ddes i nôl o Bali a meddwl fi isie gweithio ym myd chwaraeon, dwi isie gweithio gyda phlant sy o dan anfantais a wedyn es i nôl i hen brifysgol fi.

"Nath Covid ddigwydd. Oedd hynna yn grêt o ran astudio - doedd dim arall i'w neud heblaw am ddarllen, darllen, darllen, felly nes i rili fwynhau e."

Disgrifiad o'r llun, Gethin Jones yn llenwi sedd Matt Baker ar The One Show, yng nghwmni un o gyn-gyflwynwyr arall Uned5, Alex Jones

Symbyliad arall dros fentro nôl i'w hen brifysgol, Prifysgol Metropolitan Manceinion, oedd i lenwi'r gofod oedd ar y wal yn nhŷ ei rieni.

Eglura gan chwerthin: "Yn tÅ· mam a dad, uwchben y piano, mi oedd yna wastad le i Mererid (fy chwaer) ar gyfer ei llun graddio hi.

"Doedd dim lle i fi - sa' i'n credu iddyn nhw ddisgwl i fi orffen prifysgol yn y lle cyntaf. A nawr mae gen i ddwy radd - nes i gael llun massive o fi yn graddio gyda'r Masters a'i roi iddyn nhw fel anrheg Dolig!"

Strwythur yn ddechrau da i'r diwrnod

Mae dros ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i Gethin fod yn un o gyflwynwyr Uned 5 ar nosweithiau Gwener ar S4C, ac ers iddo gyflwyno Blue Peter am y tro cyntaf.

Ac yntau bellach yn cyflwyno rhaglen foreol a gyda chytundeb fydd yn para dros ddwy flynedd arall, mae ychydig o strwythur yn ei angori.

Ffynhonnell y llun, Antena

Disgrifiad o'r llun, Lisa Gwilym, Gethin Jones a Gareth Owen - cyflwynwyr Uned5 yn y 2000au cynnar

"Y peth yw, mae dros ugain mlynedd ers i fi neud Blue Peter nôl mewn byd gwahanol, 'sdim strwythur wedi bod 'da fi fel freelance so mae hwn wedi bod yn od dros y ddwy flynedd dwetha i gael job lle dwi'n gwbod lle ydw i o ddydd Llun i ddydd Gwener.

"Mae e wedi gwella bywyd yn y ffordd sa i'n cofio peidio mynd i briodas neu gadel ffrind lawr achos o'n i wastad yn meddwl, falle bod rhaid i fi weithio dros y penwythnos os yw gwaith yn dod i mewn.

Disgrifiad o'r llun, Gethin Jones yn ystod ei ddyddiau yn cyflwyno Blue Peter

"A nawr fi yn y sefyllfa lle sdim rhaid i fi neud hwnna a mae hynna yn beth neis. Dyna pam y' fi yn neud gymaint o ymarfer corff - strwythur yw hwnna i godi a cael rheswm i ddechrau'r diwrnod efo rhywbeth positif pam falle doedd gwaith ddim yn mynd mor dda a beth o'n i moyn."

Ar ôl dod i arfer â symud i wahanol lefydd yn dibynnu ar lle oedd y gwaith, mae bod yn sefydlog ym Manceinion am ychydig bach yn fodd o daclo unigrwydd.

Meddai: "Fi wedi bod yn symud rownd gyda gwaith dros y blynyddoedd - Manceinion, Caerdydd, Llundain a Los Angeles am dair blynedd.

"Mae'n swnio yn grêt a glamorous ond mae'n gallu bod yn eitha' unig. So fi wedi symud i Manceinion, fi'n mynd i'r gwaith bob dydd a mae hwnna yn rili helpu. Felly tu allan i hynny fi'n ymarfer corff a gweld ffrindie. Wedyn y penwsos - cynllunio a trio neud pethe i fwynhau bywyd."

Gosod targedau yn hytrach nac addunedau

Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, targedau i'w cyrraedd yn hytrach nac addunedau sy'n hawdd eu torri mae Gethin yn ei osod iddo'i hun.

Eglura: "Mae'r flwyddyn newydd i fi yn adeg i feddwl ac edrych ymlaen.

"Dwi bendant yn gneud goals ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Dwi'n mynd i ddechre neud lot gyda be nes i astudio felly treulio mwy o amser yn neud hynny.

Ffynhonnell y llun, David M. Benett

Disgrifiad o'r llun, Gethin Jones

"Be sy'n bwysig yw meddwl, reit be sy'n mynd i neud fi yn hapus. A mae wastad yn dod nôl i hwnna yn dyw e.

"Fi'n hoffi chware five a side ffŵti ar nos Lun gyda'r bois, mae'n oer, mae'n rubbish, a fi'n gorfod seiclo i fynd 'na ond fi'n neud yn siŵr bo' fi'n neud hynna dros unrhyw fath o waith sy'n dod i mewn, achos mae'n bwysig bo' ti neud y pethe yna ti'n mwynhau.

"Cyn gynted â ti'n hapus yn dy hun, mae pethau'n dechre digwydd eto."

Hefyd o ddiddordeb: