Elin Manahan Thomas: O'r briodas frenhinol i'r ystafell ddosbarth

Disgrifiad o'r llun, Elin Manahan Thomas

Mae Elin Manahan Thomas yn un o gantorion enwocaf Cymru. Mae'r soprano o ardal Abertawe yn cael ei hadnabod ar hyd a lled y byd fel y gantores a ganodd ym mhriodas y tywysog Harry a Meghan Markle pan oedd y briodferch yn cerdded i mewn i'r capel yng nghastell Windsor. Er hyn, mi orfododd y pandemig iddi arallgyfeirio a mynd i'r byd addysg.

Pam bod un o gantorion mwyaf llwyddiannus y wlad wedi troi at y byd hwn? Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Elin i glywed mwy.

O'r llwyfan i'r ystafell ddosbarth

Roedd y pandemig yn gyfnod anodd i nifer o berfformwyr oedd yn dibynnu ar gyngherddau a digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Pan ddaeth rheiny i stop, doedd dim modd i'r unigolion hyn ennill eu bywoliaeth ac roedd yn rhaid i nifer ohonyn nhw chwilio am swyddi eraill. Penderfynodd Elin ddilyn ôl troed ei theulu i'r byd addysg, fel athrawes gynradd.

Meddai, "Ro'n i'n teimlo'n hollol ddiymadferth, gyda'r cyngherddau i gyd ar stop, ac mewn ffordd fe ges i ffenest fach o gyfle. Mae dysgu yn y gwaed - o Dad, sy'n athro Prifysgol, lan i Mamgu a Tadcu oedd yn athrawon cynradd, a dyna beth benderfynais i wneud achos rwy wrth fy modd yn gweithio gyda phlant bach. Nid 'mod i wedi rhoi'r gorau i'r canu, ond mae wedi bod yn hyfryd ymroi fy egni at grefft arall."

Disgrifiad o'r llun, Elin Manahan Thomas

Drwy newid ei phrif swydd yn y modd yma, mae 'na nifer o heriau newydd yn ei wynebu. Mae plant ifanc yn gynulleidfa hollol wahanol i'r rhai sydd yn dod i'w gweld yn canu mewn neuaddau cyngerdd, ac mae oriau'r gwaith yn amrywio hefyd.

Eglura, "Mae'n fyd mor wahanol i'r diwydiant roeddwn i ynddo gynt! Mae'r boreau lot lot cynharach! Llai o deithio, sy'n fendith, ac mae pob diwrnod mor wahanol a difyr. Mae'r oriau, wedi dweud hynny, gymaint yn hirach, a dyw plant ddim wastad yn gynulleidfa mor groesawgar a'r rhai oedd yn arfer cymeradwyo mor hael!"

Rhannu'r ddawn gerddorol

Dewisodd Elin droi tuag at addysg gynradd, sy'n golygu bod yn rhaid iddi ddysgu nifer o bynciau. Er hyn, mae ei natur gerddorol yn golygu bod cerddoriaeth yn treiddio i mewn i'w gwaith o ddydd i ddydd.

"Rwy'n dysgu popeth, a cherddoriaeth ond yn un pwnc ymhlith y gweddill. Ond fel gallwch chi ddychmygu, mae canu a cherdd wedi dod yn rhan annatod o fy ngwersi i gyd, ac mae'n hyfryd gweld hyder a hapusrwydd plant yn tyfu trwy greu cerddoriaeth."

Ansicrwydd

Un o bryderon mawr cerddorion yn ystod y pandemig oedd y ffaith nad oedd modd gwybod os oedd digwyddiadau byw yn mynd i ddychwelyd o gwbl, a doedd dim sicrwydd bod y diwydiant yn mynd i adfer o ganlyniad i hyn. Wedi dweud hynny, mae pethau wedi prysuro dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae Elin yn falch o hynny.

"Diolch byth, mae'r byd cerddorol yn brysur eto ac mae fy ngŵr yn canu'n llawn amser o hyd. Dw inne yn dal i ganu hefyd, felly rwy mewn cysylltiad agos â'r diwydiant. Mae sawl datblygiad arall wedi cael effaith mawr ar y byd clasurol dros y blynyddoedd diwethaf, felly pwy a ŵyr beth fydd y dyfodol.

"Rwy'n mwynhau canu cyngherddau o hyd, ac rwy wedi sylwi gymaint mae pobl yn mwynhau'r cyfle ddyddie 'ma, o fynd mas gyda'r nos a rhannu profiad cerddorol gyda chymdeithas a chynulleidfa o bobl.

"Rwy'n mawr obeithio y gall y byd adloniant ddatblygu a ffynnu ar ôl y pandemig, a chanolbwyntio ar yr elfennau positif. Fe welwyd eisiau cerddoriaeth glasurol yn enbyd, a chanu corawl yn fwy na dim, felly falle taw dyna fydd sgîl-effaith colli mas ar y cyfan gyhyd."

Atgofion o'r briodas fawr

Disgrifiad o'r llun, Elin oedd yn canu tra'r oedd llygaid y byd ar Meghan Markle yn cerdded i mewn i'r capel

Mae llawer o drafod wedi bod am y tywysog Harry a'i wraig Meghan yn ddiweddar, a hynny'n rhannol yn dilyn eu rhaglen ar Netflix sydd yn feirniadol o ambell elfen o sefydliad y teulu brenhinol. Defnyddia'r rhaglen olygfeydd o'u priodas a gafodd ei lleoli yng Nghastell Windsor yn ôl yn 2018, ac mae Elin i'w gweld yn glir yn canu wrth i Meghan Markle gerdded i mewn i'r capel.

Er y dadlau diweddar, mae Elin yn edrych yn ôl ar y cyfnod yma fel profiad cadarnhaol.

Meddai, "Mae'n ddifyr nawr gweld fy ngwyneb, a chlywed fy llais, yn ymddangos ar raglen ddogfen Harry a Meghan. Mae shwd gymaint wedi digwydd ers hynny, i bawb yn y byd, ac mae'r dydd ei hun yn teimlo fel chwedl hud a lledrith erbyn hyn. Roedd e'n ddiwrnod braf a heulog, a hynod o hapus."

Elin ar y tonfeddi

Mae Elin yn troi ei llaw at gyflwyno cyfres ar Radio Cymru, fel cyflwynwraig Swyn y Sul am gyfnod. Mae wedi bod yn edrych ymlaen at gael bwrw iddi ac wedi paratoi'n drylwyr.

"Rwy 'di joio 'sgrifennu'r rhaglenni a dewis y gerddoriaeth, ac mae'n teimlo fel siwrne bersonol i fi bob bore Sul, achos 'mod i'n rhannu shwd gymaint gyda phawb. Rwy 'di dewis rêl cracyrs tro 'ma, a lot o alawon llai cyfarwydd hefyd fydd yn sicr yn dod yn ffefrynnau mawr. Cofiwch wrando!"