Streiciau: Beth ydyn nhw a sut maen nhw'n cael eu galw?

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall/PA Wire

Disgrifiad o'r llun, Aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y llinell biced yng Nghaerdydd ddydd Mawrth

Mae Cymru a gweddill y DU yn wynebu ton o streiciau mewn gwasanaethau allweddol na welwyd mo'u tebyg ers degawdau, ac nad yw llawer ohonom erioed wedi'u profi.

Mae gweithwyr iechyd (ar wahân i'r Alban), staff rheilffyrdd, post a staff heddlu'r ffin ymhlith y rhai sy'n mynnu gwell amodau gwaith a chodiadau cyflog wrth i brisiau barhau i godi.

Ond pwy sy'n galw streic a beth yw'r rheolau ar weithwyr yn gwrthod gwneud eu swyddi?

Beth yw streic?

Pan fydd gweithwyr yn cytuno'n ffurfiol ymysg ei gilydd i roi'r gorau i weithio oherwydd eu bod yn credu nad ydynt yn cael eu trin yn deg gan eu cyflogwr.

Gall streiciau ddigwydd am bob math o resymau, ond mae'n dueddol o fod yn anghydfodau ynghylch faint mae pobl yn cael eu talu a'u hamodau gwaith.

A yw'n gyfreithlon mynd ar streic?

Ydy, ar yr amod bod yr undeb llafur sy'n cynrychioli'r gweithwyr dan sylw wedi dilyn rheolau llym y gyfraith ar gyfer streiciau.

Gall streic ddigwydd yn gyfreithiol dim ond pan fydd mwyafrif o aelodau undebau llafur mewn man gwaith yn cytuno i'r weithred drwy bleidlais ffurfiol.

Mae hynny'n golygu os bydd llai na hanner aelodau undeb yn pleidleisio dyw'r streic ddim yn gyfreithlon.

Dyma pam nad yw nyrsys ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn streicio ochr yn ochr ag aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng ngweddill Cymru. Ni chyrhaeddwyd y nifer a bleidleisiodd 50% yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw.

Rhaid i aelodau bleidleisio ar ddarn o bapur a dychwelyd eu pleidlais mewn amlen ragdaledig.

Mae rheolau eraill yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i undebau roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i gyflogwyr eu bod am ddechrau streic, oni bai y cytunir gyda'r cyflogwr bod saith diwrnod o rybudd yn ddigon.

Gall y llysoedd atal streic rhag digwydd os nad yw'r rheolau wedi'u dilyn.

A allai'r rheolau gael eu tynhau ymhellach?

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak ei fod yn gweithio ar "gyfreithiau llym newydd" i amddiffyn pobl rhag aflonyddwch streic.

Pan ofynnwyd iddo gan y Â鶹ԼÅÄ a fyddai'n ystyried gwahardd streiciau yn y gwasanaethau brys, dywedodd y prif weinidog fod y "llywodraeth wastad yn mynd i fod yn rhesymol" ond gwrthododd ei ddiystyru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gweithwyr post wedi bod yn streicio yn y cyfnod cyn y Nadolig

All unrhyw un streicio?

Na. Gwaherddir streic mewn nifer cyfyngedig o swyddi. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, y lluoedd arfog a swyddogion carchar.

Mae gweithwyr nad ydynt yn aelod o undeb llafur hefyd yn cael streicio, ochr yn ochr ag aelodau undeb, ar yr amod bod y streic yn gyfreithlon.

Ydy gweithwyr sy'n streicio yn colli arian?

Fel arfer tynnir tâl o gyflogau am bob diwrnod y maent ar streic, oni bai bod y streic yn digwydd ar ddiwrnod na fyddent fel arfer yn gweithio.

Beth yw undebau llafur?

Mae gweithwyr unigol yn ymuno ag undeb llafur i drafod ar eu rhan gyda chyflogwyr gyda'r nod o gael gwell cyflog neu amodau gwaith.

Gallai undeb ofyn i'w aelodau a ydynt am streicio, drwy bleidlais, os yw arweinwyr undeb yn teimlo nad yw'r cyflogwr yn cynnig cymaint ag y dylent.

Weithiau gellir dod i gytundeb yn ystod y broses o ymgynghori â gweithwyr ar streic, sy'n golygu nad yw'r weithred yn digwydd.

Ariennir undebau gan weithwyr trwy ddidyniad o'u cyflogau.

Faint o bobl sy'n aelodau o undebau llafur?

Yn ôl ffigyrau swyddogol gafodd eu cyhoeddi ym mis Mai, roedd 23.1% o weithwyr y DU yn aelodau o undeb llafur y llynedd.

Fodd bynnag, er gwaethaf gostyngiad mewn aelodaeth yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd cyfran yr aelodau yng Nghymru wedi codi 3.7% i 35.6%, yr uchaf ers 2014.