Â鶹ԼÅÄ

Ymosodiad ci Caerffili: Menyw 83 wedi marw o'i hanafiadau

  • Cyhoeddwyd
Roedd yr heddlu yn dal i gynnal ymchwiliadau yn ardal Heol Fawr ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn Heol Fawr, Caerffili yn parhau

Mae menyw 83 oed wedi marw dros bythefnos ar ôl i gi ymosod arni yng Nghaerffili.

Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr.

Bu fawr o'i hanafiadau yn ystod oriau mân fore Mawrth, 20 Rhagfyr.

Dywed yr heddlu fod dyn 55 oed a gafodd driniaeth am fân anafiadau bellach wedi'i ryddhau o'r ysbyty.

Yn dilyn y digwyddiad mewn tÅ· yn Heol Fawr, cafodd pedwar o bobl eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth.

Mae'r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Cafodd y ci, bully cross cane corso XL du, ei ddifa ar ôl y digwyddiad.

Dywed Heddlu Gwent fod yr ymchwiliad yn parhau a'u bod yn parhau i gasglu tystiolaeth.

Pynciau cysylltiedig