Apêl yn dilyn dwyn gwartheg o fferm ar Ynys Môn

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r heddlu wedi lansio apêl yn dilyn y digwyddiad nos Sadwrn

Mae'r heddlu wedi lansio apêl wedi i 14 o wartheg gael eu dwyn o sied ar Ynys Môn.

Mae'n debyg bod y gwartheg wedi cael eu llwytho ar lori fawr o'r fferm ar gyrion Llannerch-y-medd nos Sadwrn.

Mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw dystion a welodd y gwartheg cael eu cludo oddi yno.

Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos bod lori yn yr ardal tua 23:30 GMT ac wedi gadael toc wedi hanner nos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd SCCH Rhys Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hi'n lori fawr a fyddai wedi cael trafferth teithio ar hyd y ffordd gul.

"Mae hyn yn amlwg gan fod difrod wedi ei achosi i'r gwrych, y waliau a'r glaswellt ar ochr y ffordd.

"Rwyf yn gofyn i unrhyw un â CCC yn Llanerch-y-medd, Carmel a Threfor i edrych ar eu camerâu am lorïau yn cludo da byw tua'r adeg hynny."